Offeryn cerdd o ogledd India yw'r shehnai, shenai neu mangal vadya sy'n offeryn chwyth tebyg i'r Obo. Mae hefyd i'w ganfod yn Iran a Pacistan a chaiff ei wneud o bren gyda chloch metel ar ei ben.[1][2][3] Dywedir fod ei sain yn creu'r ymdeimlad o rywbeth sanctaidd. Caiff ei ddefnyddio'n aml mewn priodasau, mewn prosesiwn ac mewn temlau yng ngorllewin India. Weithiau, caiff hefyd ei ganu mewn cyngherddau. Mae'n eitha tebyg i'r nadaswaram o dde India.

y shehnai

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.