Shehu Shagari
Gwleidydd o Nigeria oedd Alhaji Shehu Usman Aliyu Shagari (25 Chwefror 1925 – 28 Rhagfyr 2018) a oedd yn Arlywydd Nigeria o 1979 i 1983.
Shehu Shagari | |
---|---|
Ganwyd | 25 Chwefror 1925 Shagari |
Bu farw | 28 Rhagfyr 2018 Abuja |
Dinasyddiaeth | Nigeria |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd Nigeria, Gweinidog Cyllid Nigeria |
Plaid Wleidyddol | National Party of Nigeria |
Plant | Muhammad Bala Shagari |
Perthnasau | Muktar Shagari |
Bywyd cynnar ac addysg (1925–51)
golyguGanwyd yn nhalaith Sokoto yng ngogledd-orllewin Nigeria, mewn pentref a enwir Shagari a sefydlwyd gan ei orhendad. Cymerodd y teulu eu henw oddi ar y pentref. Ffermwr a masnachwr gyda sawl gwraig oedd ei dad. Mynychodd yr ysgol Goranaidd leol cyn iddo astudio yng Ngholeg Kaduna (heddiw Coleg Barewa) in Zaria, talaith Kaduna.[1]
Gyrfa wleidyddol gynnar (1951–79)
golyguGweithiodd Shagari am gyfnod fel athro cyn iddo ddod yn wleidydd yn 1951. Fe'i etholwyd yn aelod ffederal o Dŷ'r Cynrychiolwyr yn 1954, pan oedd y wlad dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Wedi i Nigeria ennill ei hannibyniaeth yn 1960, gwasanaethodd Shagari yn weinidog ym mhob un weinyddiaeth, dros yr economi, pensiynau, a materion mewnwladol, nes coup d'état gan y fyddin yn 1966. Dychwelodd Shagari i Sokoto a gwasanaethodd yn y llywodraeth leol am gyfnod. Yn 1971, symudodd yn ôl i Lagos i fod yn gomisiynydd ffederal dros ddatblygiad economaidd dan lywodraeth y Cafridog Yakubu Gowon, ac yn ddiweddarach gweinidog arianneg.[1]
Wrth i'r arweinydd Olusegun Obasanjo ddatgan y byddai'r fyddin yn trosglwyddo'r llywodraeth yn ôl i'r sifiliaid, sefydlodd Shagari blaid wleidyddol newydd, Plaid Genedlaethol Nigeria. Fe'i dewiswyd yn ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiad arlywyddol Ebrill 1979. Enillodd yr etholiad gyda rhyw 34% o'r pleidleisiau.[1]
Arlywyddiaeth (1979–83)
golyguEr i Shagari addo fuddsoddi i wella isadeiledd a'r cyflenwad tai i bobl tlawd, cafodd cyllideb y llywodraeth ei daro'n drwm gan ostyngiad prisiau olew yn 1981. Ceisiodd Shagari wella'r economi drwy gwtogi ar wariant cyhoeddus, cynyddu tollau mewnforio, ac alltudio gweithwyr tramor. Cafodd ei benderfyniad i yrru rhyw dwy filiwn o weithwyr estron, y mwyafrif ohonynt o Ghana, o'r wlad effaith negyddol ar gysylltiadau rhwng Nigeria a gwledydd eraill yng Ngorllewin Affrica. Enillodd etholiad 1983 yn sgil cystadleuaeth chwerw. Ar 31 Rhagfyr 1983, cafodd ei ddisodli mewn gwrthryfel milwrol dan arweiniad yr Uwchfrigadydd Muhammadu Buhari.[1]
Wedi'r arlywyddiaeth (1983–2018)
golyguWedi i'r fyddin gipio grym, cafodd Shagari ei arestio a'i gadw yn y ddalfa am dair mlynedd. Cafodd ei ddifeio'n swyddogol o gyhuddiadau o lygredigaeth, er iddo gael ei wahardd rhag ymwneud â gwleidyddiaeth Nigeria am weddill ei oes.[1]
Bywyd personol
golyguMwslim Swnni oedd Shagari, a oedd yn hoff o wisgo'i ddillad Islamaidd. Roedd ganddo bedair gwraig, a niferoedd mawr o blant ac wyrion ac wyresau.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Paul Legg, "Shehu Shagari obituary", The Guardian (9 Ionawr 2019). Adalwyd ar 10 Ionawr 2019.
- ↑ (Saesneg) Alan Cowell, "Shehu Shagari, Nigerian President During ’80s Oil Crisis, Dies at 93", The New York Times (29 Rhagfyr 2018). Adalwyd ar 10 Ionawr 2018.