Sherburn-in-Elmet

Pentref a phlwyf sifil yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Sherburn-in-Elmet.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Selby. Saif ger tref Selby.

Sherburn-in-Elmet
Eglwys yr Holl Saint, Sherburn-in-Elmet
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Selby
Poblogaeth8,497 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.7973°N 1.2331°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012524 Edit this on Wikidata
Cod OSSE506337 Edit this on Wikidata
Cod postLS25 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 6,657.[2]

Mae Sherburn yn un o ddau le yn yr ardal - Barwick-in-Elmet yw'r llall - a gysylltir wrth ei enw â'r hen deyrnas Elmet, un o deyrnasoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd.

Yn ôl traddodiad lleol, codwyd yr eglwys leol, Eglwys yr Holl Saint, ar safle llys Elmet. Mae'r adeilad yn dyddio o 1120, ond rhoddwyd y safle i Archesgob Efrog gan Athelstan pan drodd yn Gristion yn y 10g.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 1 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 1 Medi 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato