Ardal Selby
Ardal an-fetropolitan yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Ardal Selby (Saesneg: Selby District).
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
Prifddinas | Selby |
Poblogaeth | 89,106 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 599.3108 km² |
Cyfesurynnau | 53.777°N 1.079°W |
Cod SYG | E07000169 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Selby District Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 599 km², gyda 90,620 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio ar Fwrdeistref Harrogate a Dinas Efrog i'r gogledd, Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de, a Gorllewin Swydd Efrog i'r gorllewin.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd plwyfi Acaster Malbis, Askham Bryan, Askham Richard, Bishopthorpe, Copmanthorpe, Deighton, Dunnington, Elvington, Fulford, Heslington, Kexby, Naburn a Wheldrake i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.[2]
Mae pencadlys cyngor yr ardal yn nhref Selby, ond mae tref Tadcaster hefyd yn yr ardal, yn ogystal â phentrefi mawr Cawood a Sherburn in Elmet. Mae rhan fawr yr ardal yn gorwedd yn Lefelau Penhwmbr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020
- ↑ The North Yorkshire (District of York) (Structural and Boundary Changes) Order 1995 (Saesneg); adalwyd 6 Hydref 2020