Ci sbits sy'n tarddu o Japan yw'r Shiba. Y Shiba yw'r hynaf a'r lleiaf o fridiau cŵn Japan, sydd yn addas fel ci gwarchod.[1][2]

Shiba
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
MathJapanese dog Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Shiba

Deillia'r enw Shiba, neu Shiba Inu ("ci" yw ystyr Inu yn y Japaneg) o'r 1920au. Mae gan y gair Shiba ddau ystyr: "prysglwyni" a "bach". Yn ôl rhai mae'r enw yn cyfeirio at fedr y ci hwn wrth fynd trwy brysglwyni, ond yn ôl eraill "ci bach" yw ystyr syml yr enw.[2]

Bu'r Shiba bron yn diflannu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daw'r Shiba ers hynny o dair llinach: y San In Shiba, y Mino Shiba, a'r Shin Shu Shiba.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Shiba Inu. Animal Planet. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Shiba Inu: History. American Kennel Club. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.