Siôn Bradford

gweydd a phannwr a lliwydd

Bardd o ardal Tir Iarll ym Morgannwg yn y 18g oedd Siôn Bradford, a adnabyddir hefyd fel John Bradford (1706 - 1785). Mae'n adnabyddus yn bennaf heddiw am iddo fod yn athro barddol i Iolo Morganwg.[1]

Siôn Bradford
Ganwyd 1706 (in Julian calendarEdit this on Wikidata
Bu farw 6 Mehefin 1785 Edit this on Wikidata (78 oed)
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

A'i wreiddiau yn Nhir Iarll, ardal sy'n enwog am ei draddodiad llenyddol, roedd Siôn Bradford yn aelod o gylch o feirdd a gwŷr llên ym mlaenau Bro Morgannwg. Bu'n astudio'r traddodiad barddol Cymraeg yn ei ieuenctid a ddaeth yn athro i feirdd eraill yn y cylch. Ymddiddorai yn hanes a thraddodiadau Cymru hefyd ac roedd yn gasglwr llawysgrifau Cymreig er ei mai gwëydd a phannwr digon distadl oedd o ran ei alwedigaeth.[1]

Fe'i cofir yn bennaf am iddo ddod yn athro barddol i'r Iolo Morganwg ifanc. Ar ôl marwolaeth Siôn, honnai Iolo fod ei athro barddol yn perthyn i olyniad o feirdd "derwyddol" a'i fod wedi dysgu rhai o gyfrinachau Gorsedd y Beirdd ganddo, ond gwyddys bellach mai rhan o ffugiadau niferus Iolo ei hun yw hyn. Dyrchafodd Iolo alluoedd barddol ei athro hefyd, ond nid ystyrir fod llawer o werth llenyddol i'w cerddi erbyn heddiw, er eu bod o ddiddordeb hanesyddol.[1]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).