Sian Adey-Jones
Sian Adey-Jones (ganwyd yn Rhagfyr 1957 ym Modfari, Sir Ddinbych) oedd Miss Cymru, 1976, ac yn ail yng nghystadleuaeth Miss Byd (Miss World) yn yr un flwyddyn.[1]
Siociwyd y Gymru Gymraeg pan gyhoeddodd Y Faner lun noeth ohoni ar glawr un o'i rifynnau. Cafwyd adroddiad yn y Daily Mirror iddi ben-glinio heddwas yn ei geilliau tua'r un adeg. Ymddangosodd yn borcyn nifer o weithiau ar dudalen 3 ym mhapur tabloid The Sun, a bu'n actio yn un o ffilmiau James Bond: A View To A Kill yn 1985.
Mae'n byw ar Ynys Ibitha ers rhai blynyddoedd bellach gyda'i gŵr Eidalaidd Rocco ei mab Dylan a'i merch Tallulah.[2]
Cyfeiriadau
golyguDolennau allanol
golygu- (Saesneg) [3]