Sian Northey

llenor

Awdur Cymreig yw Sian Northey, yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae eisoes yn byw ym Menrhyndeudraeth.[1]

Sian Northey
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Astudiodd am radd mewn Swoleg. Ar ôl nifer o swyddi, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio fel awdur, bardd a golygydd ar ei liwt ei hun. Mae'n sgwennwr llawrydd gan ysgrifennu ffuglen, ar gyfer plant ac oedolion, a barddoniaeth. Mae hefyd yn gyfieithydd ac yn cynnal gweithdai ysgrifennu o bob math gyda diddordeb arbennig yn y cyswllt rhwng llenyddiaeth ac iechyd a llesiant. Yn ddiweddar mae wedi ennill doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion ac wedi ennill Coron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a chadeiriau Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid.[2]

Cyhoeddiadau golygu

  • Ar y Daith (Gwasg Gwynedd, 1998)
  • Pwysig! (Gwasg Gwynedd, 2005)
  • Chwaer Fawr Blodeuwedd (Gwasg Gwynedd, 2008)
  • Maestro, Cyfres Swigod (Gwasg Gomer, 2011)
  • Yn y Tŷ Hwn (Gwasg Gomer, 2011)
  • Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)
  • Y Gwaith Powdr, Cyfres Strach (Gwasg Gomer, 2013)
  • Rhyd y Gro (Gwasg Gomer, 2016)
  • Celwydd Oll (Gwasg y Bwthyn, 2018)
  • Perthyn (Gomer@Lolfa, 2019)
  • Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn, 2020)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Siân Northey". Cyfnewidfa Lên Cymru. Cyrchwyd 2022-09-24.
  2. "www.gwales.com - 1848511582". www.gwales.com. Cyrchwyd 2022-09-24.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Sian Northey ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.