Trawsfynydd

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru. yw Trawsfynydd ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd ar ochr cefnffordd de-gogledd yr A470. Mae'n adnabyddus fel man geni y bardd Hedd Wyn. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r Gymraeg. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o 1000 o bobl.

Trawsfynydd
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9022°N 3.9238°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000100 Edit this on Wikidata
Cod OSSH707356 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Trawsfynydd: Y pentref o gyfeiriad y Bala
Canol Trawsfynydd: tafarn y Cross Foxes

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Adeiladwyd Atomfa Trawsfynydd ar lannau'r llyn yn y chwedegau a daeth â llawer o waith i'r ardal. Mae hi bellach yn cael ei datgomisiynu ers ei chau ym 1992. O safbwynt gwleidyddol, mae'r pentref yn rhan o ward ehangach Trawsfynydd ac yn cael ei chynrychioli ar Gyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol). Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw Ysgol Bro Hedd Wyn, sy'n rhan o ddalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a Rhiw Goch. Mae nifer o siopau yn y pentref gan gynnwys swyddfa bost, siop bapur, fferyllfa a chigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd. Hefyd, mae canolfan treftadaeth, sy'n cynnwys hostel yn yr un adeilad.

Eglwys golygu

Mae eglwys Trawsfynydd wedi ei chysegru i Santes Madryn (bl. 5g efallai). Yn ôl yr hanes, roedd hi'n teithio gyda'i morwyn Anhun ac arosasant yn Nhrawsfynydd. Pan syrthiasant i gysgu, cawsant ill dwy yr un freuddwyd yn eu gorchymyn i godi cell lleianod yno. Ac felly y gwnaed, a saif Eglwys Santes Madryn ar y llecyn heddiw.[3] Mae adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio o'r 16g yn bennaf.[4]

Olion hynafol a chadwraeth golygu

Ceir cylch cytiau caeedig Dolbelydr a Ffridd Wen gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Mae Afon Eden - Cors Goch Trawsfynydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Hedd Wyn golygu

Roedd y bardd enwog Hedd Wyn a'r merthyr Catholig Sant John Roberts yn hannu o'r ardal. Mae cerflyn o Hedd Wyn yn sefyll yng nghanol y pentref ac mae arddangosfa yn adrodd ei hanes yng Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain gerllaw.

Ffliw Sbaen: pandemig 1918 golygu

Tra rydym ynghanol Covid19, y pandemig byd-eang diweddaraf, mae’n diddorol edrych yn ôl ar haint debyg ganrif yn ôl, sef y ffliw a elwid yn ffliw Sbaenaidd, a gweld pa effaith gafodd yr haint ar gymunedau trwy gofnodion prifathrawon yr ysgolion lleol.
Cadwai pob ysgol lyfr lòg. Ond gan nad oedd rheolau pendant ynglŷn ag union gynnwys y cofnodion, byddai rhai prifathrawon yn manylu llawer mwy nag eraill. Er hynny, cofnododd mwyafrif yr ysgolion y rhesymau oedd yn cadw plant rhag mynychu’r ysgol. Cofnodwyd salwch a thywydd eithriadol: roedd eira, gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn rhesymau dilys i gadw plant gartref. Byddai'r ysgolion yn cau ar gyfer digwyddiadau mawr yn y capeli ac ystyrid bod cadw plant hŷn gartref ar gyfer gwaith fferm yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur yn beth rhesymol ac yn wahanol i mitsio.

Ysgol Trawsfynydd golygu

Gan gymryd Ysgol Trawsfynydd fel enghraifft, mae rhai ffactorau yn dylanwadu ar yr ysgol hon yn benodol. Roedd yn agos at wersyllfa milwrol, er nid mor agos ag Ysgol Bronaber. Teithiai o leiaf pedwar o’r chwech athro yno ar y rheilffordd, ac mae sawl cofnod o athrawon yn trosglwyddo i ysgol arall neu o ysgol arall pan fyddai prinder athrawon. Mae rhain i gyd yn ffactorau a fyddai wedi hybu trosglwyddo y firws. Nid yw’r arolwg hwn yn un gwyddonol; byddai'n rhaid cymharu sawl ysgol i weld a oedd gwahaniaethau rhyngddynt.
Yn nhymor yr haf 1918, cofnodwyd bod nifer o blant yn absennol o Ysgol Trawsfynydd - unwaith yn unig rhoddir salwch fel rheswm, ddwywaith oherwydd gwaith fferm a theirgwaith oherwydd tywydd garw. Nodir hefyd bod un athrawes wedi bod yn absennol am wythnos oherwydd salwch ac un arall am ddiwrnod.
Rhagflaenwyd y ffliw yn Ysgol Trawsfynydd gan haint arall, difftheria. Er nad oedd hyn yn unigryw i Ysgol Trawsfynydd, mae'n debyg ei fod wedi peri bod effeithiau y ffliw wedi bod yn waeth nag mewn sawl ysgol arall. Ar Medi 20fed, nodir bod plentyn o’r ysgol wedi marw o difftheria a bod llawer o salwch ymhlith y plant. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, gorchmynnodd meddyg bod rhaid i’r ysgol gau am dair wythnos. Yn ystod yr wythnos wedi i’r ysgol ailagor, yr oedd llawer o blant yn absennol oherwydd salwch, sefyllfa a barhaodd tan ddiwedd mis Hydref. Ceir y cofnod cyntaf o’r ffliw ar y 27ain Hydref pan gofnodwyd fod yr haint wedi ymweld â bron bob cartref yn yr ardal. Felly, mae’n amhosibl gwybod ai’r ffliw ynteu difftheria oedd achos absenoldeb y plant ym mis Hydref. Er hynny, caewyd yr ysgol am bum wythnos arall oherwydd y ffliw. Bu tair athrawes yn absennol am ddiwrnod yr un yn ystod yr cyfnod hwn yn ei gyfanrwydd.
Ond nid dyma ddiwedd cyfnod y salwch. Ym mhythefnos cyntaf mis Ionawr, cyfeirir at nifer o blant yn absennol oherwydd salwch; sonnir fel arfer am anwyd neu beswch. Mae’r sefyllfa yn gwella ddechrau mis Chwefror, ond o’r 21ain ymlaen mae yna gyfeiriadau niferus at absenoldebau oherwydd anwyd a pheswch. Bu dechrau mis Mawrth yn wlyb a stormus, a chaewyd yr ysgol gan swyddog meddygol o’r 10fed tan y 24ain o’r Mis. Pan ail agorodd yr ysgol, yr oedd dwy athrawes yn absennol oherwydd salwch. Drannoeth, dychwelodd un ohonynt ond bu'r llall yn absennol am bum wythnos. Yn ystod mis Mawrth, mae yna un cyfeiriad arall at athrawes yn sâl ac un diwrnod o eira trwm.
Wrth gymharu hyn gyda thri mis cyntaf 1918, gwelir dau gyfeiriad yn unig at salwch ymhlith y plant; tri diwrnod pan oedd plant yn absennol oherwydd tywydd garw a dwy athrawes i ffwrdd am wythnos yr un oherwydd salwch. Dros aeaf 1918-9, bu’r ysgol ar gau am 10 wythnos ac ar adegau eraill bu nifer uwch o blant nag arfer yn absennol. Gellid tybio bod y salwch wedi effeithio ar blant Trawsfynydd yn waeth yng ngwanwyn 1919 oherwydd eu bod eisoes wedi dioddef heintiau yr hydref blaenorol a heb gael cyfle digonol i wella a chryfhau.[5][6]

Ysgol Bronaber golygu

Yng nghyfnod pandemig 1918-20, roedd Ysgol Bronaber yn gwasanaethu plant milwyr Gwersyll Rhiwgoch, ac yn yr ysgol hon y disgwylid i effeithiau'r haint fod amlycaf.[angen ffynhonnell]

Enwogion golygu

Hen bennill golygu

Am ryw reswm roedd y pellter i Drawsfynydd yn dipyn o ddihareb yn yr oes a fu. Dyma'r hen bennill, er enghraifft:

Hir yw'r ffordd a maith yw'r mynydd
O Gwm Mawddwy i Drawsfynydd:
Ond lle bo 'wyllus mab i fyned,
Fe wêl y rhiw yn oriwaered.[7]

Cludiant golygu

Mae gwasanaeth bws eithaf rheolaidd ar gael o'r pentref i Ddolgellau a Blaenau Ffestiniog ac mae hefyd yn cael ei wasanaethu gan fysus y Trawscambria o Fangor i Aberystwyth.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trawsfynydd (pob oed) (973)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trawsfynydd) (725)
  
76.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trawsfynydd) (738)
  
75.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Trawsfynydd) (157)
  
37.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. The Book of Welsh Saints, tud. 344.
  4. Esgobaeth Bangor[dolen marw]
  5. Erthygl gan Rwth Tomos[[1]]
  6. Cofnodion unigol Ysgol Trawsfynydd 1918 [[2]]
  7. Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 43.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol golygu