Sian Williams (chwaraewraig rygbi)

chwaraewraig rygbi'r undeb

Chwaraewraig Rygbi'r undeb yw Sian Williams (ganwyd 23 Hydref 1990), sy'n aelod o dîm Rygbi Cenedlaethol y Merched, Cymru. Yn 2016 roedd hefyd yn chwarae yn y rhes cefn yn nhîm Swydd Gaerwrangon (y Worcester Warriors) a Dreigiau Casnewydd Gwent. Yn ei gêm gyntaf dros ei gwlad curwyd yr Albanwyr ym Mhencampwriaethau Chwe Gwlad, merched.

Sian Williams
Sian Williams yn 2016
Dyddiad geni (1990-10-26) 26 Hydref 1990 (33 oed)
Man geni Wrecsam
Taldra 1.62 m (5 tr 4 mod)
Pwysau 74 cilogram

Ganed Sian yn Wrecsam ar 4 Ebrill 1993. Dywed ei gwefan swyddogol ei bod yn 1.62 m (5 tr 4 mod) ac yn 74 cilogram. Bu'n chwarae rygbi ers oedd yn wyth oed, pan oedd yn chwarae gyda'i brodyr. Yn 2011, fe'i galwyd i dîm rygbi merched Cymru dan 20 oed, fel capten, gan guro'r Lloegr yn ei gem gyntaf.[1] Yn yr un flwyddyn, chwaraeodd ei gêm gyntaf chwaraeodd i'r tîm llawn, yr oedolion, gan sicrhau buddugoliaeth arall - y tro hwn yn erbyn yr Alban.[2]

Ar 10 Chwefror 2016 cyhoeddwyd ei bod am droi at y bêl gron yn broffesiynol.[3] gan ymarfer yn llawn amser ond parhau mewn enw yn gyflogedig gan yr RAF.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sian Williams". Wales Rugby Union. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-10. Cyrchwyd 2 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1 "RAF's Sian Williams Becomes First Professional Women's Rugby Union Player". Royal Air Force. 11 February 2016. Cyrchwyd 2 Mai 2016.
  3. Abbandonato, Paul (10 Chwefror 2016). "Sian Williams is Wales' first female professional rugby player and she hopes other women follow her lead". Wales Online. Cyrchwyd 2 May 2016.