Cwrw wedi'i gymysgu â diod blas lemwn clir a phefriog yw siandi. Yn Ewrop, Seland Newydd ac Awstralia, mae'r diod lemwn yn cael ei alw'n "lemonêd". Mae faint sy'n cael ei roi o'r ddau gynhwysyn yn cael ei amrywio yn ôl chwaeth y sawl sy'n ei yfed, ond mae siandi yn aml yn hanner cwrw a hanner lemonêd. Mae siandi yn boblogaidd yng Ngorllewin Ewrop, Awstralia, Seland Newydd, a De Affrica.

Mae mathau o siandi yn cynnwys: portergaff, cwrw monaco, refajo, fanschop, disel, panaché, russ, radler a biermischgetränke.

Mae 'lager top' yn fath o siandi, ond gydag ychydig bach o lemonêd wedi ei roi ar ben y lager. Mae yfed trwy'r lemonêd yn tyneru blas y lager.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Getting to the bottom of lager tops". Liverpool Echo. Cyrchwyd 11 June 2014.
  2. "Lager top". Collins Dictionary. Cyrchwyd 11 June 2014.