Sianel62
Sianel deledu Cymraeg ar y wê yw Sianel 62. Sefydlwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg fel rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant y mudiad. Lansiwyd ar y 19eg o Chwefror 2012 gan ddarlledu rhwng 1-2 awr o ddeunydd gwreiddiol ac archifol yn fyw ar nosweithiau Sul am gyfnod o 6 mis. Ers hynny, mae'r sianel wedi canolbwyntio ar greu rhaglenni a ffilmiau unigol.
URL | http://www.sianel62.com |
---|---|
Slogan | Mi fydd y chwyldro ar y teledu |
Math o wefan | Fideo |
Ieithoedd ar gael | Cymraeg |
Perchennog | Cymdeithas yr Iaith Gymraeg |
Lansiwyd ar | 19 Chwefror, 2012 |
Dolenni allanolGolygu
- www.sianel62.com[dolen marw] Gwefan swyddogol
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.