Sianeleiddio
Newidiadau pwrpasol gan bobl i amgylchedd yr afon ar gyfer pwrpas rheoli llifogydd, lleihau neu rwystro erydiad, gwella traeniad a gwella ffyrdd tramwyo ar gyfer llongau, yw sianeleiddio. Gall hyn ddigwydd drwy garthu, sythu a dargyfeirio sianel yr afon, yn ogystal ag adeiladu strwythurau ar ei gwely a’i glannau. Gall y rhain gynnwys coredau, llifgloddiau a strwythurau er mwyn dargyfeirio llif oddi wrth y glannau.
Oherwydd bod y mesurau yma yn effeithio ar nodweddion llif yn yr ardal a sianeleiddiwyd, maent yn medru cael cryn effaith ar brosesau hylifol a dyddodol i fyny ac i lawr yr afon. Er enghraifft, os yw sianel yn cael ei dyfnhau, bydd llifoedd a fuasai wedi gorlifo yn flaenorol yn cael eu dal o fewn y sianel. Bydd hyn yn arwain at rymoedd erydol uwch ar wely’r afon, ac yn arwain at endorri. Bydd hyn yn parhau hyd at bwynt lle mae uchder y glannau yn rhy uchel i barhau, a lle mae’r trothwy ar gyfer erydiad y glannau yn cael ei groesi. Gall hyn arwain at amrywiadau ym maint sianeli i lawr yr afon o’r sianeleiddio, a phroses o endorri yn mudo i hydoedd i fyny’r afon. Gall hyn, yn ei dro, arwain at gyflenwi dyddodion ychwanegol at hydoedd wedi eu lleoli i lawr yr afon, ac at broblemau dyddodiad. Os yw afon yn cael ei lledu ar gyfer pwrpasau rheoli llifogydd, bydd lleihad yng nghyflymder llif a phŵer afon pan mae’r llif yn isel, gan arwain at ddyddodiad ar hyd yr afon a chan olygu y bydd rhaid carthu’r afon yn gyson.
Mae ymateb afonydd i sianeleiddio yn amrywio, yn ddibynnol ar y math o sianeleiddio a wnaed, a’r graddau yr effeithir ar bŵer afon, cyflenwad dyddodion a gorchudd llystyfiant. Mewn rhai achosion gall gymryd mil o flynyddoedd cyn bod y sianel yn cyrraedd stad o gydbwysedd newydd. Gall nifer ac amrywiaeth rhywogaethau ddisgyn yn sylweddol ar ôl sianeleiddio o ganlyniad i’r ffaith bod carthu a chreu sianel unffurf yn dinistrio cynefinoedd naturiol ac amrywiaeth (e.e. pyllau a rifflau a strwythur dyddodion gwely). Gellid creu amgylchedd lle mae cyflymder llif yn uwch na’r hyn all rhai rhywogaethau eu goroesi, a gall tymereddau dŵr yn ystod llifoedd isel godi y tu hwnt i’r hyn all rhai rhywogaethau eu dioddef wrth i ddyfnder llif gael ei leihau ac wrth i amgylcheddau cysgodol a llystyfiant ar y glannau gael eu gwaredu. Yn ogystal, mae gwerth esthetig afonydd yn cael ei leihau drwy sianeleiddio. Yn rhannol, yr hyn sydd yn gwneud afonydd yn agweddau
geomorffolegol pleserus i’r llygaid yw’r amrywiaeth mewn lled, dyfnder, nodweddion dyddodol, pyllau, rifflau a barrau sydd i’w gweld. Mewn sianeli wedi eu dylunio a’u sianeleiddio, ni chrëir yr un gwerth esthetig oherwydd eu hunffurfiaeth.
O ganlyniad i’r rhesymau hyn, ac oherwydd symudiad tuag at ddatrysiadau mwy amgylcheddol-gyfeillgar, mae adfer afonydd i stadau mwy naturiol yn dechrau dod yn fwy poblogaidd na datrysiadau peirianyddol mewn nifer o ranbarthau. Mae’r datrysiadau yma yn cynnwys carthu rhannol, creu strwythurau atal erydiad gan ddefnyddio dulliau peirianyddol ‘meddal’, a gorlifo rheoledig mewn gwlypdiroedd. O ran adfer afonydd, gellir rhannu hyn i mewn i adfer goddefol pryd y ceisir mynd i’r afael â phroblemau sydd yn atal adferiad naturiol ac adfer actif pryd y gwneir newidiadau uniongyrchol i’r afon er mwyn cyflymu adferiad.
Llyfryddiaeth
golygu- Charlton, R. (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
- Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.