Siart bar
Mae siart bar neu ar lafar gwlad 'graff bar' yn fath o ddiagram sy'n cyflwyno categoriau o ddata drwy ddefnyddio bariau petryal. Mae'r rhain yn betryalau lle mae eu huchder neu eu hyd yn gyfranneddol (proportional) â'r gwerthoedd y maent yn eu cynrychioli. Gellir plotio'r bariau yn fertigol neu'n llorweddol. Gelwir siart bar fertigol weithiau'n "graff llinell".
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8a/IUCN_Red_List_2007_cy.svg/320px-IUCN_Red_List_2007_cy.svg.png)
Mae siart bar yn dangos cymariaethau rhwng categorïau sy'n gwbwl ar wahân. Mae un echel y siart yn dangos y categorïau penodol sy'n cael eu cymharu, ac mae'r echelin arall yn cynrychioli gwerth mesuredig. Mae rhai graffiau bar yn cyflwyno bariau wedi'u clystyru mewn grwpiau o fwy nag un, gan ddangos gwerthoedd mwy nag un newidyn.
Mae llawer o ffynonellau yn nodi mai William Playfair (1759-1824) a ddyfeisiodd y siart bar.[1][2]
Histogram
golyguMath o siart bar yw histogram, lle cysylltir y categoriau, fel eu bod yn llifo e.e. o ran amser. Yn wahanol i'r siart bar, un newidyn yn unig sydd ynddo.
Mae'r histogram hwn yn dylunio'n weledol data am fioamrywiaeth yn y stod y Ffanerosöig. Mae'r echel x yn cynrychioli amser. Canlyniad yr holl fariau yw eu bod yn ffurfio llinell, yn eitha naturiol. Gweler hefyd: siart llinell.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Beniger, James R.; Robyn, Dorothy L. (1978), "Quantitative Graphics in Statistics: A Brief History", The American Statistician (Taylor & Francis, Ltd.) 32 (1): 1–11, doi:10.1080/00031305.1978.10479235, JSTOR 2683467
- ↑ Der, Geoff; Everitt, Brian S. (2014). A Handbook of Statistical Graphics Using SAS ODS. Chapman and Hall - CRC. ISBN 1-584-88784-2.
- ↑ Howitt, D.; Cramer, D. (2008). Introduction to Statistics in Psychology (arg. Fourth). Prentice Hall. ISBN 978-0-13-205161-3.