Cysyniad sy'n mesur parhad digwyddiadau a'r cyfnodau rhyngddynt yw amser.

Amser
Enghraifft o'r canlynolmaint fector, spatio-temporal entity Edit this on Wikidata
Mathcyfres Edit this on Wikidata
Rhan ogofod-amser Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gellir defnyddio'r llif o dywod mewn awrwydr i gadw cyfnod o'r amser a aeth heibio. Mae e hefyd yn cynrychioli'n gywir y presennol ac yn cyfannu'r gorffennol a'r dyfodol.

Mae amser yn baramedr sylfaenol i bopeth sy'n newid – heb newid ni cheir amser, heb amser ni cheir newid. Mesur y mae amser graddfa newid digwyddiadau. Trwy sefydlu graddfa o'r fath y mae amser yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd wedi digwydd, yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sydd ar fin digwydd; yr hyn a fu, y sydd ac a fydd.

I sylwedydd cyffredin mae'n ymddangos fod amser yn llifo'n gyson i un cyfeiriad yn unig, h. y. o'r gorffennol i'r presennol ac i'r dyfodol. Ond, yn ôl damcaniaeth perthnasedd Einstein nid dyna sydd mewn gwirionedd. Er mwyn lleoli digwyddiad yn iawn yn y bydysawd Einsteinaidd rhaid ei ystyried mewn continwwm gofod-amser pedwar dimensiwn.

Yn hanesyddol, roedd mesur amser yn seiliedig ar sylwadau seryddol, sef yr amser sy'n mynd heibio tra bod y ddaear yn cylchdroi ar ei hechel (sef diwrnod) neu iddi gwblhau ei chylchdro o gwmpas yr haul (sef blwyddyn). Fodd bynnag, mae gwyddoniaeth ddiweddar yn seilio mesur amser ar yr eiliad, a ddiffinnir yn nhermau amlder ymbelydredd arbennig a ryddheir gan isotop diffiniedig cesiwm; gelwir hyn yn gloc cesiwm.

Dyfyniadau barddol am amser golygu

Mae syllu i lygad amser
yn gychwyn gwallgofrwydd.
Mewn amser mae amser i bopeth.[1]

Saunders Lewis

Gobaith fo’n meistr:
rhoed Amser i ni’n was.

Waldo Williams

Cyfeiriadau golygu

Chwiliwch am amser
yn Wiciadur.