Grŵp cerddorol o Lanuwchllyn ydy Siddi.

Siddi
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Ffurfiwyd y grŵp gan y chwaer a brawd Branwen Haf ac Osian Huw Williams sydd hefyd wedi cyfrannu at sawl grŵp cerddorol arall megis Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas.[1]

Albwm cyntaf y grŵp oedd Un Tro yn 2013. Mae’n albwm cysyniadol am dylwyth teg o Gwm Cynllwyd ym Mhenllyn. ac wedi’i recordio’n bennaf yn Ysgoldy Llanuwchllyn, a garej Yr Hen Felin, eu cartref yn Llanuwchllyn.[2]

Cyfeiriadau golygu