Sidi Kacem
Dinas yng ngogledd-orllewin Moroco yw Sidi Kacem. Mae'n ganolfan weinyddol y dalaith o'r un enw yn rhanbarth Gharb-Chrarda-Beni Hssen. Fe'i lleolir ar groesffordd tua 90 km i'r dwyrain o ddinas Kenitra, prifddinas Gharb-Chrarda-Beni Hssen.
Math | dinas, urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 75,037 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Sidi Kacem |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 194 metr |
Cyfesurynnau | 34.21°N 5.7°W |
Cod post | 16000 |
Mae ffyrdd yn ei chysylltu â Kenitra, Tanger, Fes a Meknes. Ceir gorsaf ar reilffordd Kenitra-Meknes.
Gorwedd safle dinas Rufeinig Volubilis i'r de o Sidi Kacem, ar y ffordd i Meknes.