Tanger
Dinas yng ngogledd Moroco yw Tanger (Arabeg a Berber: Ṭanja طنجة, Ffrangeg: Tanger, Sbaeneg: Tánger, Portiwgaleg: Tânger, Saesneg: Tangier neu Tangiers). Mae ganddi boblogaeth o tua 700,000 (cyfrifiad 2008). Mae'n gorwedd ar arfordir Gogledd Affrica wrth y fynedfa orllewinol i Gulfor Gibraltar lle mae'r Cefnfor Iwerydd yn cwrdd â'r Môr Canoldir ger Penrhyn Spartel. Mae'n brifddinas rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae gan Tanger hanes cyfoethog sy'n ymestyn yn ôl i'r 5g CC pan gafodd ei sefydlu fel un o drefi'r Ffeniciaid o ddinas Carthago. Dros y canrifoedd bu'n gartref i sawl gwareiddiad ac yn noddfa i bobl o sawl gwlad. Yn 1923 rhoddwyd statws rhyngwladol i Tanger gan y pwerau trefedigaethol, ac felly daeth yn gyrchfa i bobl o sawl gwlad a diwylliant ac yn ganolfan masnach fawr. Yn y 1940au a'r 1950au roedd gan Tanger enw fel canolfan bywyd bohemaidd, moethus ond amheus; daeth sawl llenor ac artist yno ond roedd yn enwog hefyd am ddenu miliwnwyr, troseddwyr rhyngwladol a gamblwyr. Mae'r ddinas yn newid yn gyflym heddiw. Mae prosiectau datblygu yn cynnwys gwestai moethus ar hyd y bae bay, canolbarth busnes, a maes awyr newydd. Yn ogystal, gobeithir y bydd economi Tanger yn adfywio diolch i adeiladu porthladd newydd Tanger-med.
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 947,952 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | Bizerte, Faro, Algeciras, Cádiz, Liège, Casablanca, Metz, Moulins, Pasadena, Mumbai, Beaugency, Saint-Denis, Aartselaar, Saint-Josse-ten-Noode |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tangier-Assilah Prefecture |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 199.5 km² |
Uwch y môr | 80 metr |
Cyfesurynnau | 35.7767°N 5.8039°W |
Cod post | 90000, 90010, 90020, 90030, 90040, 90050, 90060, 90070, 90080, 90090, 90100 |
MA-TNG | |