Sigarét electronig

Dyfais electronaidd i ysmygu fel eilydd ar gyfer tybaco. Gelwir hefyd ar lafar yn 'fêp' o'r Saesneg 'vape'

Mae sigarét electronig, a elwir hefyd gan sawl enw arall fel e-sigarét, yn ddyfais electronig sy'n efelychu ysmygu tybaco. Gelwir hefyd ar lafar ac yn gynyddol yn y cyfryngai yn fêp o'r Saesneg.[1] Mae sigaréts electronig yn cynnwys nicotin.

Mathau o sigaréts electronig.

Enwau golygu

Yn Saesneg, mae "vaping" yn golygu "defnyddio sigarét electronig".

Yn Saesneg, mae enwau cyffredin ar gyfer sigaréts electronig yn cynnwys "vapes", "e-cigarettes", "vape pens" a sawl un arall.

Yn Gymraeg, mabwysiadwyd y term "e-sigarét" fel enw amgen ar sigarét electronig.

Cyfreithlondeb golygu

Yng Nghymru, mae defnyddio sigaréts electronig yn gyhoeddus yn anghyfreithlon.[2]

Gwahardd Fêps untro golygu

Ym mis Ionawr 2024 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am wahardd e-sigarennau untro. Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, bellach yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â fêps untro – a hynny oherwydd rhesymau amgylcheddol ac iechyd. Nododd siaradwyr mewn cyfweliad stryd ar Newyddion S4C eu bod yn teimlo bod fêps untro wedi eu marchnata ar gyfer plant gan ddefnyddio lliwau llachar, golau sy'n fflachio. Nododd y Llywodraeth hefyd bod gwastraff plastig a niwed i'r amgylchedd yn ffactor wrth eu banio.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro". Newyddion S4C. 29 Ionawr 2024.
  2. https://www.theguardian.com/society/2015/jun/09/wales-e-cigarette-ban
  3. "Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps untro". Newyddion S4C. 29 Ionawr 2024.


 

 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.