Newyddion S4C
Mae Newyddion S4C yn wasanaeth newyddion ar-lein gan S4C. Mae'r ddarpariaeth ar ffurf fideo digidol gan newyddiadurwyr S4C, ac mewn partneriaeth gyda Golwg, ITV Cymru a BBC Cymru, neu wedi eu derbyn drwy ffynnonhellau newyddion allanol.[1] Sefydlwyd y wasanaeth ar 6 Ebrill 2021.[2] Mae'r gwasanaeth yma yn annibynnol o raglen Newyddion sydd ar deledu S4C ac a ddarperir yn uniongyrchol gan y BBC yn unol gyda Siarter S4C ac fel rhan o ddarpariaeth y Gorfforaeth i'r Sianel a sefydlwyd yn 1982.
Dechrau/Sefydlu | 2021 |
---|---|
Pencadlys | Caerfyrddin |
Hanes
golyguCyhoeddodd S4C eu bwriad i lansio gwasanaeth newyddion annibynnol ar y BBC ar 4 Medi 2020. Fe'i lansiwyd, yng ngeiriau Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C, gan ei fod yn teimlo fod bwlch yng ngwasanaethau S4C a bod angen i'r Sianel "fel darlledwr cyhoeddus, fod â gwasanaeth newyddion sy'n ffit ar gyfer y dyfodol".
"Mae rhaglen Newyddion S4C yn 'neud yn dda i ni," meddai, "ond mae ymchwil yn dangos fod cynulleidfa y rhaglen honno dros 65 oed a'r hyn sydd wedi fy nharo ers i fi ddod i'r swydd yw o ble mae'r gynulleidfa iau yn cael ei newyddion. Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus Cymraeg, mae'n gwbl amlwg bod yn rhaid i ni ddatblygu gwasanaeth digidol Cymraeg gan mai'r darogan yw y bydd llai o bobl yn edrych ar raglenni newyddion teledu yn ystod y blynyddoedd nesaf." Aeth yn ei flaen a dweud, "Mae e'n poeni fi bod canran helaeth o wylwyr Newyddion S4C dros 65 oed. Dywedodd 75% o'r rhai wnaethon ni eu holi eu bod yn cael eu newyddion drwy ffynonellau digidol."[3]
Lansiwyd y gwasanaeth yn llawn ar 6 Ebrill 2021. Y Golygydd Newyddion Digidol (oedd yn gyfrifol am y ddarpariaeth o ddydd i ddydd) oedd Ioan Pollard.[2]
Llwyfannau
golyguMae'r gwasanaeth ar Facebook, Twitter ac Instagram. Mae hefyd ar ffyrf app ond nid oes iddo sianel ei hun ar Youtube. Mae'r rhaglen 'Newyddion' sydd ar sianel lloeren, digidol, daearol, S4C Clic a BBC iPlayer.
Erbyn Hydref 2022, deunaw mis wedi lansio Newyddion S4C, roedd y wasanaeth wedi derbyn oddeutu 8,700 dilynwr ar Twitter (o'i chymharu â 17,000 i Golwg360 a 28,000 i gyfrif Cymru Fyw y BBC). Roedd gan y dudalen Facebook oddeutu 18,500 yn dilyn; ac Instagram â 1,250 yn dilyn.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Amdanom Ni". Gwefan Newyddion S4C. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd". Cymru Fyw BBC Cymru. 6 Ebrill 2021.
- ↑ "S4C i lansio gwasanaeth newyddion digidol". Cymru Fyw BBC Cymru. 4 Medi 2020.