Band ôl-roc o Wlad yr Iâ ydy Sigur Rós. Maent yn enwog am eu cerddoriaeth gwreiddiol a llais falsetto y prif leisydd Jón Þór "Jónsi" Birgisson. Daw enw'r band o enw chwaer Jónsi, Sigurrós, sy'n golygu 'rhosyn buddugoliaeth'. Mae'r rhan fwyaf o'u caneuon yn cael eu canu yn Islandeg neu yn yr iaith ffug annealladwy Vonlenska sydd yn cael ei hadnabod fel Hopelandic yn Saesneg.

Cyngerdd Sigur Rós yn Reykjavík, 2005

Disgyddiaeth

golygu

Albymau stiwdio

golygu
  • Von (1997) - ("Gobaith")
  • Ágætis byrjun (1999) - ("Cychwyn gweddol dda")
  • () (2002)
  • Takk... (2005) - ("Diolch...")
  • Hvarf-Heim (2007)
  • Með suð í eyrum við spilum endalaust (2008) - ("Gyda su yn ein clustiau, chwaraewn yn ddiddiwedd")
  • Valtari (2012)
  • Kveikur (2013)
  • Átta (2023)

Albymau byw

golygu
  • Inni (2011)

Aelodau

golygu
  • Jón Þór “Jónsi” Birgisson – prif lais, gitâr, gitâr fwa, allweddellau, harmonica, banjo, bas (ers 1994)
  • Georg “Goggi” Hólm – gitâr fas, clychau taro, tegan piano (ers 1994)
  • Orri Páll Dýrason – drymiau, allweddellau (ers 1999)

Cyn-aelodau

golygu
  • Ágúst Ævar Gunnarsson – drymiau (1994–1999)
  • Kjartan “Kjarri” Sveinsson – syntheseiddwyr, allweddellau, piano, organau, rhaglennu, gitarau, ffliwt, chwiban tun, obo, banjo, llais cyfeiliant (1998-2013)

Dolenni Allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.