Siocled

bwyd a wneir o ffa cacao

Bwyd a wneir goco a siwgr yw siocled. Mae siocled yn frown fel arfer, ond mae rhai mathau o siocled yn felyn ("gwyn") neu'n ddu. Po uchaf yw canran y coco, y gorau yw ansawdd y siocled.

Siocled

Caiff siocled ei greu o gnau y goeden coco Theobroma cacao sydd yn hanu o goedwigoedd yr Amazon. Mae astudiaethau genetig yn awgrymu bod coed coco wedi cael eu tyfu gan bobl am bron i 3000 o flynyddoedd yn ne a chanolbarth America ac ymddengys y cawsant eu defnyddio i wneud diod. Mae'r enw 'siocled' yn tarddu o'r gair Aztec am y math hwn o ddiod, xocolātl, sydd yn golygu 'dŵr chwerw'. Heddiw mae bron i 3/4 o gynnyrch siocled y byd yn dod o Affrica, gyda hanner y cynnyrch hwn yn dod o Arfordir Ifori.

Mae llawer o bobl ym Mhrydain Fawr yn hoff iawn o siocled. Maent yn "siocoholig", dywedir. [angen ffynhonnell] Mae hi'n bosib yfed siocled poeth hefyd.

Blodyn Cacao yn tyfu yn yr Almaen.

Dolenni allanolGolygu

Chwiliwch am siocled
yn Wiciadur.