Cantores a cherddor gwerin oedd Suzanne Elizabeth George (2 Ebrill 19566 Mai 2005), a adwaenid fel Siwsann George. Sefydlodd y grŵp gwerin Mabsant a roedd yn ymgyrchydd brwd dros y Gymraeg a hawliau'r anabl.[1]

Siwsann George
Ganwyd2 Ebrill 1956 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 2005 Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Siwsann yn Ysbyty Gorllewin Morgannwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.[2] Fe'i magwyd yn Nhreherbert, Y Rhondda, ac roedd yn rhan o'r genhedlaeth gyntaf i gael ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen a Ysgol Gyfun Rhydfelen.[1] Dechreuodd ganu yn ifanc, yng ngwersi sol-ffa’r capel ac yn Eisteddfodau’r Urdd.[3]

Aeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac ar ôl graddio aeth ymlaen i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Gyrfa golygu

Cychwynnodd ganu gyda'i brawd, Roland, cyn ffurfio Mabsant yn 1978. I gychwyn roedd y grŵp yn chwarae caneuon gwerin Cymreig a Gwyddelig yn nhafarndai Caerdydd. Yn 1981 enillodd Siwsann y gystadleuaeth canu unigol yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd gyda chân o'r enw "Aberfan". Trodd Mabsant yn grŵp proffesiynol yn 1984 a teithiodd y grŵp i bedwar ban byd.[2]

Cyhoeddwyd goreuon Mabsant ar label Recordiau Sain ac yn eu broliant maent yn dweud fod Siwsann "wedi ennill clod am ei llais 'cyfoethog llawn emosiwn' ac am ei chyflwyniadau cyffrous o'r caneuon. Roedd ganddi ddyfnder o ddealltwriaeth am y caneuon oedd heb ei debyg ymysg cantorion eraill ei chenhedlaeth".[3]

Yn ddiweddarach, roedd Siwsann yn chwarae gyda ei grŵp ei hun - Sioe Gymreig Werinol Siwsann George.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Roger Plater a roedd ganddynt un mab, Osian. Symudodd y teulu o Lantrisant i Abercynon yn 1994. Bu farw yn 49 oed yn dilyn brwydr hir yn erbyn cancr.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 'Colled enfawr i'r byd gwerin' , BBC Cymru, 8 Mai 2005. Cyrchwyd ar 2 Mehefin 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Mabsant - Artist Biography. Allmusic. Adalwyd ar 2 Mehefin 2016.
  3. 3.0 3.1  Mabsant - Bywgraffiad. Recordiau Sain. Adalwyd ar 2 Mehefin 2016.