Ysgol Gyfun Rhydfelen
Ysgol Uwchradd Gymraeg oedd Ysgol Gyfun Rhydfelen, wedi ei lleoli yn Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf. Agorwyd yn 1962 a hi oedd ail yr ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol ![]() |
---|---|
Rhanbarth | Cymru ![]() |
Roedd adeiladau'r ysgol mewn cyflwr gwael gan i ran o'r ysgol gael ei adeiladu ar frys fel lleoliad dros-dro i hyfforddi cyn-filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917.[1]
Symudwyd yr ysgol o Rydyfelin i adeilad newydd ym Mhentre'r Eglwys ym mis Medi 2006 ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg. Bu dadl ynglŷn â'i hail-enwi i Ysgol Gyfun Gartholwg am fisoedd cyn penderfynu cadw'r enw newydd yn erbyn dymuniadau mwyafrif y disgyblion, athrawon a rhieni.[2][3]
Cyn-ddisgyblion o nôd Golygu
- Jeremi Cockram - actor
- Daniel Evans - actor, cyfarwyddwr
- Magi Dodd - cyflwynydd
- Aneirin Karadog - bardd, ieithydd, darlledwr
- Dafydd Trystan Davies - academydd, gwleidydd
- Eirlys Britton - actores, athrawes
- Dudley Newbery - cogydd, darlledwr
- Jon Owen Jones - gwleidydd
- Maria Pride - actores, cantores
- Richard Lynch - actor
- Catrin Dafydd - bardd, awdur, ymgyrchydd.
- Emyr Lewis - bardd, cyfreithiwr
- Ceri James - Cynllunydd Goleuo
- Dafydd Hunt - Golygydd Ffilm
- Gwilym Harries - Cerddor, awdur ac athronydd
Dolenni Allanol Golygu
- Gwefan Ysgol Gartholwg Archifwyd 2007-12-22 yn y Peiriant Wayback.