Pentref ar ddiwedd y Lustrafjorden, cangen o'r Sognefjorden, yn Norwy, yw Skjolden. Mae'r pentref ym mwrdeistref Luster yn sir Vestland. [1] Mae Skjolden yn gartref i tua 200 o bobl. [2]

Golygfa o Sogneford, a dynnwyd o Skjolden

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Fjordstova (canolfan gymunedol a gwybodaeth i dwristiaid)
  • Hauge gård (bwyty a fferm)
  • Tŷ Wittgenstein

Enwogion

golygu

Bu'r athronydd Ludwig Wittgenstein yn byw yn Skjolden ar ôl 1913 yn ystod rhai cyfnodau o'i fywyd. Ysgrifenwyd yma ranau pwysig o'i weithiau. Cafodd "Østerrike", ei tŷ bach pren ar graig anghysbell dros Lyn Eidsvatnet, ei dorri i fyny ym 1958 i gael ei ailadeiladu yn y pentref. Cafodd ei ddatgymalu eto yn 2014 a'i ail-godi yn ei leoliad gwreiddiol; cynhaliwyd yr urddo ar 20 Mehefin 2019.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Store norske leksikon. "Skjolden" (yn Norwegian). Cyrchwyd 2010-09-11.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Statistisk sentralbyrå (2001). "Folke- og boligtellingen 2001, kommune- og bydelshefter 1426 Luster" (PDF) (yn Norwegian).CS1 maint: unrecognized language (link)