Sognefjord yw'r Fjord hiraf a dyfnaf yn Norwy.[1] Lleolir Sognefjord yn swydd Vestland; mae’n 205 cilomedr o hyd, o’r môr i bentref Skjolden.[2] Mae’r fjord yn ardal Sogn.[3]

Daearyddiaeth

golygu

Mae’r fjord yn pasio trwy Solund, Gulen, Hyllestad, Høyanger, Vik, Sogndal, Lærdal, Aurland, Årdal, a Luster ac yn cyrraedd dyfnder o 1308 medr ger Høyanger.[4][5] Mae dyfnder y fjord dros 1000 medr o Rutledal i Hermansverk, tua 100 milltir. Mae aber y fjord yn fas, tua 100 medr o dan lefel y môr. Mae haen trwchus o waddod ar waelod y fjord. Lled mwyaf y fjord yw 6 cilomedr.[6] Mae clogwyni bron unionsyth yn codi i uchder o 1000 medr. Mae sawl fjord arall, megis Aurlandsfjord yn ymuno â Sognefjord. Mae ambell swnt a nifer o ynysoedd, gan gynnwys Sula Losna a Hiserøyna, rhai ohonynt yn greigiog yn ymyl aber Sognefjord.[7]. Tu ôl i’r fjord, mae mynyddoedd tua 1000 medr o uchder a rhewlif Jostedalsbreen, yr un mwyaf ar gyfandir Ewrop. Mae’r mynyddoedd Hurrungane yn cyrraedd o uchder. Mae nifer o afonydd yn llifo i’r fjord. Ac mae’r mewnlif ar ei fwyaf ym Mehefin.[8]. Mae’r fjord yn mynd trwy graig Gneis.[9]

Canghennau

golygu

Lustrafjorden

golygu

Lustrafjord yw’r un bellaf o’r aber, yn ardal Luster. Ar ben Lustrafjord mae’r pentref Skjolden o le mae’n bosibl cyrraedd Parc Cenedlaethol Jotunheimen. Amser maith yn ôl, buasai drafic rhwng Bergen a Skjolden ar gychod ac wedyn ar ffordd dros y mynyddoedd. Erbyn hyn mae ffordd sir 55 yn cyrraedd Skjolden, ac mae ffordd E16 yn cyrraedd yr ardal o Oslo.

Daeareg

golygu

Mae’r dyffryn yn hŷn na’r bedwaredd oes iâ, ond cafodd lethrau graddol.[10] Gogwyddodd y tir yn ddwyreiniol, a thorrodd afonydd ddyfnaint ar eu ffordd i’r gorllewin.[11][12].Dilynodd yr erydiad gan afonydd a rhewlifau wendidau crawen y ddaear.[13] Yn ystod yr oes iâ ddiwetharaf, cyrhaeddodd yr iâ ddyfnder o 3000 medr. Hyd at 30 cilomedr o’r arfordir, cedwyd rhewlif Sognefjord i’w sianel gul o haenithfaen, ond ehangwyd yn agosach i’r môr.[14]

Twristiaeth

golygu
 
Nærøyfjord
 
1853 portread y fjord gan Hans Gude ac Adolph Tidemand.

Mae cychod yn cysylltiad rhwng pentrefi’r fjord, gan gynnwys Leirvik, Ytre Oppedal, Vadheim, Høyanger, Vikøyri, Balestrand, Hermansverk, Sogndalsfjøra, Gudvangen, Flåm, Aurlandsvangen, Lærdalsøyri, Årdalstangen, Gaupne a Solvorn. Mae Gudvangen ar lan Nærøyfjord, sy’n fjord arbennig o fawreddog. Mae Nærøyfjord a Geirangerfjord yn Safle UNESCO Dreftadaeth y byd. Mae Rheilffordd Flåm yn cysylltu Sognefjord â gweddill rheilffyrdd Norwy, yn dringo 864 medr dros 20 cilomedr rhwng Flåm a Myrdal.[15] Mae 3 eglwys erwydd yn yr ardal, yn Kaupanger, Urnes a Borgund.

Trafnidiaeth

golygu

Mae cynllun adeiladu twnnel gyda ffordd ar draws Sognefjord.[16][17]

Mae sawl fferi ar draws y fjord, gan gynnwys MV Ampere, fferi batri-trydanol cyntaf y byd, rhwng Lavik ac Ytre Oppedal.[18]

Cyfeiriadau

golygu
  1. ’Natural Wonders of the World’ cyhoeddwyd gan Reader’s Digest, 1980;|isbn=0-89577-087-3
  2. ’Natural Wonders of the World’ cyhoeddwyd gan Reader’s Digest, 1980;|isbn=0-89577-087-3
  3. ’Nordre Bergenhus Amt’ gan Amund Helland, cyhoeddwyd gan Aschehoug, 1901
  4. Fra svenskegrensen til Sognefjorden Cyhoeddwyr: Nautisk forlag i samarbeid med Statens kartverk, Norges sjøkartverk, 1987: isbn=8290335024
  5. Gwefan Store norske leksikon
  6. Istider i Norge. Landskap formet av istidenes breer gan Bjørn G Andersen; cyhoeddwyr Universitetsforlaget, 2000:isbn=9788200451341
  7. Erthygl ‘Notes on the formation of fjords and fjord-valleys’ gsn H Holtedahl;Geografiska Annaler.Series A. Physical Geography cyfrol 49,tudalennau 188-203
  8. Papur newydd Store norske leksikon
  9. Erthygl ‘Notes on the formation of fjords and fjord-valleys’ gsn H Holtedahl;Geografiska Annaler.Series A. Physical Geography cyfrol 49,tudalennau 188-203
  10. ’ Landforms and uplift history of southern Norway’ gan Karna Lidmar-Bergstrom; Cylchgrawn ‘Global and Planetary Change’;cyfrol 24, rhif 3]]
  11. ’Notes on the formation of fjords and fjord valleys’ gan Hans Holtedal; Cylchgrawn Geografiska Annaler, 1967; cyfrol 49, rhifau 2–4
  12. ’Quaternary erosion in the Sognefjord drainage basin, western Norway’ gan A.Nesje, S.O.Dahl, V.Valen a J.Øvstedal; Cylchgrawn Geomorphology, Cyfrol 5, rhif 5 |issue=6
  13. ’Erosion of the Sognefjord, Norway’ gan A.Nesje a I.M.Whillans; Cylchgrawn Geomorphology Cyfrol 9, rhif 1
  14. West Norwegian fjords. gan I. Ac O.Fredin; cyhoeddwr Cymdeithas Ddaearegol Norwy, Trondheim, 2014; ISBN|978-82-92-39491-5
  15. "Gwefan Sognefjord". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-08. Cyrchwyd 2022-03-18.
  16. Gwefan businessinsider.com
  17. https://www.vegvesen.no/_attachment/274047/binary/485789 Gwefan vegvesen.no
  18. https://www.ship-technology.com/projects/norled-zerocat-electric-powered-ferry/ Gwefan ship-technology.com

Dolenni allanol

golygu