Ffilm James Bond yw Skyfall a ryddhawyd ym mis Hydref 2012. Dyma yw'r 23ain ffilm yn y gyfres o ffilmiau a chafodd ei chynhyrchu gan Eon Productions a'i dosbarthu gan MGM a Sony Pictures Entertainment.[1] Dyma'r drydedd ffilm i serennu Daniel Craig fel James Bond, a chwaraeir rhan Raoul Silva, dihiryn y ffilm, gan Javier Bardem. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Sam Mendes a chafodd ei hysgrifennu gan John Logan, Neal Purvis a Robert Wade.

Skyfall

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Sam Mendes
Cynhyrchydd Michael G. Wilson
Barbara Broccoli
Ysgrifennwr Neal Purvis
Robert Wade
John Logan
Serennu Daniel Craig
Javier Bardem
Judi Dench
Ralph Fiennes
Naomie Harris
Bérénice Lim Marlohe
Albert Finne
Cerddoriaeth Thomas Newman
Skyfall wedi'i pherfformio gan Adele
Sinematograffeg Roger Deakins
Golygydd Stuart Baird
Kate Baird
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Eon Productions
Danjaq LLC
Amser rhedeg 143 munud
Gwlad DU
Iaith Saesneg

Yn y ffilm, mae Bond yn ymchwilio i ymosodiad ar MI6; daw yn amlwg fod yr ymosodiad yn ymosodiad rhannol ar M gan gyn-ysbïwr MI6, Raoul Silva. Yn y ffilm hefyd, cawn ein hail-gyflwyno i gymeriadau Q, a chwaraeir gan Ben Whishaw a Miss Moneypenny, a chwaraeir gan Naomie Harris. Dyma oedd y ffilm olaf hefyd i Judi Dench chwarae rôl M, rôl y mae hi wedi bod yn chwarae yn y saith ffilm flaenorol. Yn ei lle, bydd Ralph Fiennes yn chwarae rhan Gareth Mallory, sydd yn cymryd swydd M.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ysbïo. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.