Pobl Slafonig sy'n byw yng ngogledd orllewin y Balcanau yw'r Slofeniaid. Cyn 1918 roedd y mwyafrif ohonynt yn byw yn yr Ymerodraeth Habsbwrgaidd. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf daethant yn un o genhedloedd Iwgoslafia hyd at annibyniaeth Slofenia ym 1991. Mae'r mwyafrif helaeth o Slofeniaid yn Babyddion.[1] Maent yn siarad yr iaith Slofeneg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain, Penguin, 2004), t. 1420–1.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Slofenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato