Iwgoslafia
Gwlad ffederal ar lan Môr Adria yn y Balcanau, de-ddwyrain Ewrop, oedd Iwgoslafia (enw swyddogol: Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, Serbo-Croateg: Jugoslavija). Roedd yn cynnwys y gweriniaethau ffederal Slofenia, Croatia, Serbia, Bosnia a Hertsegofina, Montenegro a Macedonia, sy'n wledydd annibynnol erbyn heddiw. Serbiaid a Croatiaid oedd mwyafrif y boblogaeth. Beograd oedd y brifddinas.
Iwgoslafia Jugoslavija (Југославија) | |
![]() | |
Math | gwlad ar un adeg ![]() |
---|---|
Prifddinas | Beograd ![]() |
Poblogaeth | 23,271,000, 11,998,000 ![]() |
Sefydlwyd | 1 Rhagfyr 1918 (Ffurfiwyd) 27 Ebrill 1992 (Daeth i ben) |
Anthem | Hey, Slavs ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Serbo-Croateg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 255,804 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Adria ![]() |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Gwlad Groeg, Hwngari, Rwmania, Albania, Bwlgaria, Awstria, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen Natsïaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 44.8206°N 20.4622°E ![]() |
![]() | |
![]() | |
Arian | Yugoslav dinar ![]() |

Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn 1918. Cymerodd y brenin Alecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn 1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn 1934. Yn yr Ail Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yr Almaenwyr a ffoes Pedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth yn Llundain.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef y Tsietniciaid a'r Partisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn 1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinydd Tito lywodraeth gomiwnyddol.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yr Undeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn 1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaeth Stalin. Dilynodd Tito bolisi o niwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf o sosialaeth ddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Torrodd Iwgoslafia i fyny yn y 1990au yn Rhyfeloedd Iwgoslafia.
Llyfryddiaeth
golygu- Hall, Brian, The Impossible Country: A Journey Through the Last Days of Yugoslavia (London: Secker & Warburg, 1994)
- Allcock, John B., Explaining Yugoslavia (Efrog Newydd: Columbia University Press, 2000)
- Clark, Ramsey, NATO in the Balkans: Voices of Opposition (International Action Center, 1998)
- Cohen, Lenard J., Broken Bonds: The Disintegration of Yugoslavia. Westview Press, 1993)
- Dragnich, Alex N.: Serbs and Croats. The Struggle in Yugoslavia. Efrog Newydd: Harcourt Brace Jovanovich, 1992
- Fisher, Sharon, Political Change in Post-Communist Slovakia and Croatia: From Nationalist to Europeanist (Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2006)
- Glenny, Misha, The Fall of Yugoslavia: The Third Balkan War (Harmondsworth: Penguin, 1992)
- Gutman, Roy., A Witness to Genocide. The 1993 Pulitzer Prize-winning Dispatches on the "Ethnic Cleansing" of Bosnia (Efrog Newydd: Macmillan, 1993)
- Jelavich, Barbara, History of the Balkans: Eighteenth and Nineteenth Centuries, 2 gyf. (Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983)
- Silber, Laura ac Allan Little, Yugoslavia: Death of a Nation (Penguin, 1997)
- Owen, David, Balkan Odyssey (Harcourt (Harvest Book), 1997)
- Sacco, Joe, Safe Area Gorazde: The War in Eastern Bosnia 1992-1995 (Fantagraphics Books, 2002)
- West, Rebecca, Black Lamb and Gray Falcon: A Journey Through Yugoslavia (Viking, 1941)
White T., Another fool in the Balkans: In the footsteps of Rebecca West (Llundain, Cadogan Guides, 2006)