Smerdis, brenin Persia
brenin neu frenhines ( -c.522 CC)
Brenin Ymerodraeth Persia am gyfnod byr oedd Smerdis, hefyd Bardiya neu Bardia (Perseg Bardia, bu farw 522 CC).
Smerdis, brenin Persia | |
---|---|
Ganwyd | Unknown Pasargadae |
Bu farw | 29 Medi 522 CC o clwyf drwy stabio Pasargadae |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Swydd | Uwch Frenin, King of Kings, Pharo |
Tad | Cyrus Fawr |
Mam | Cassandane |
Priod | Atossa, Phaedymia |
Plant | Parmys |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Roedd Amerdis yn fan i Cyrus Fawr. Pan oedd y brenin Cambyses II yn ymgyrchu yn yr Aifft, hawliodd Smerdis yr orsedd. Dywedir i Cambyses ei ladd ei hun wedi anobeithio cael buddugoliaeth. Fodd bynnag, byr fu teyrnasiad Smerdis; saith mis yn ddiweddarach gorchfygwyd ef a'i ladd gan Darius, un o swyddogion Cambyses, a ddaeth yn frenin fel Darius I.
Yn ôl Darius, nid y gwir Smerdis oedd y person a hawliodd y goron. Dywed ef fod Cambyses wedi lladd y gwir Smerdis cyn cychwyn i'r Aifft, rhag ofn iddo wrthryfela yn ei absenoldeb. Oherwydd nad oedd neb yn gwybod am hyn, gallodd person o'r enw Gaumata hawlio mai ef oedd Smerdis.
Rhagflaenydd: Cambyses II |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 522 CC |
Olynydd: Darius I |
Rhagflaenydd: Cambyses II |
Brenin yr Aifft 522 CC |
Olynydd: Darius I |