Cyrus Fawr

sylfaenydd yr Ymerodraeth Achaemenid

Cyrus Fawr, Perseg: کوروش بزرگ, Kurosh-e Buzurg neu کوروش کبیر Kurosh-e Kabeer (c. 600 CC neu 576 - Awst 530 CC neu 529 CC), hefyd Cyrus II, brenin Persia oedd sylfaenydd Ymerodraeth Persia.

Cyrus Fawr
Great Men and Famous Women Volume 1 - Cyrus the Great.png
Ganwydc. 600 CC Edit this on Wikidata
Anshan (Persia) Edit this on Wikidata
Bu farw530 CC Edit this on Wikidata
Sir Daria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAchaemenid Empire, Anshan (Persia) Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, arweinydd milwrol, sefydlydd mudiad neu sefydliad, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddUwch Frenin, King of Kings Edit this on Wikidata
TadCambyses I Edit this on Wikidata
MamMandane of Media Edit this on Wikidata
PriodCassandane, Amitis Shahbanu, Neithiyti Edit this on Wikidata
PlantSmerdis, brenin Persia, Atossa, Artystone, Roxane, Cambyses II, brenin Persia, Gaumata Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Ceir nifer o hanesion gwahanol am ei fywyd cynnar. Yn ôl Herodotus, roedd yn ŵyr i Astyages, brenin Media, ond wedi ei fagu gan ffermwyr tlawd.

Roedd o lwyth Persaidd y Pasargadae a thylwyth yr Achaemenidae. Cyn iddo uno'r Mediaid a'r Persiaid mewn un deyrnas, roedd yn frenin Anshān, teyrnas yn yr hyn sy'n awr yn dde Iran. Adeiladodd Cyrus ei brifddinas, Pasargadae, yn yr ardal yma.

Bu'n frenin Persia am bron 30 mlynedd, ac adeiladodd ymerodraeth yn ymestyn o ffiniau yr Aifft hyd Afon Indus. Gorchfygodd Ymerodraeth y Mediaid, Ymerodraeth Newydd Babilon ac Ymerodraeth Lydia. Lladdwyd ef ar hyd y Syr Darya tra'n ymladd yn erbyn y Scythiaid. Olynwyd ef gan ei fab, Cambyses II.

Rhagflaenydd:
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
559 CC - 530 CC
Olynydd:
Cambyses II