Snorri Sturluson
Hanesydd, bardd a gwleidydd o Wlad yr Iâ oedd Snorri Sturluson (1178 – 23 Medi, 1241).
Snorri Sturluson | |
---|---|
Ganwyd | 1179 Hvammur í Dölum |
Bu farw | 23 Medi 1241 Reykholt, Gorllewin Gwlad yr Iâ |
Dinasyddiaeth | Gwlad yr Iâ |
Galwedigaeth | llenor, Skald, hanesydd, gwleidydd, diplomydd, bardd |
Swydd | lawspeaker |
Adnabyddus am | Prose Edda, Heimskringla |
Tad | Sturla Þórðarson (elder) |
Priod | Hallveig Ormsdóttir |
Plant | Órækja Snorrason, Þórdís Snorradóttir, Jón murtur Snorrason, Hallbera Snorradóttir |
Llinach | Sturlungar family clan |
Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur yr Edda Rhyddiaith neu Edda Iau, sy'n cynnwys y Gylfaginning ("twyllo Gylfi"), hanes o fytholeg Lychlynnaidd, y Skáldskaparmál, llyfr o iaith farddonol, a'r Háttatal, rhestr o ffurfiau barddoniaeth. Roedd hefyd yn awdur yr Heimskringla, hanes brenhinoedd Norwy sy'n dechrau yn y cyfnod mytholegol gyda Saga Ynglinga ond hefyd yn cynnwys hanes o'r Canol Oesoedd. Er nad oes sicrwydd, mae lle i gredu mai ef oedd awdur Saga Egil. Fel hanesydd, mae'n nodedig am ei theori fod y duwiau yn y cyfnod mytholegol wedi dechrau fel arweinwyr dynol, a bod pobl wedi dechrau eu hystyried yn dduwiau ar ôl eu marwolaeth.