Sophie Howe
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru cyntaf
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yw Sophie Joyce Howe (ganwyd tua 1977), a benodwyd yn 2016. Roedd hi’n gynghorydd lleol a bu’n gweithio fel cynghorydd gwleidyddol arbennig. Roedd hi'n dirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu hefyd.
Sophie Howe | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Future Generations Commissioner for Wales |
Cafodd Howe ei magu yn Nhrelái, Caerdydd. Mynychodd ysgol yn Rhiwbeina. Roedd ei rhieni yn weithgar mewn gwleidyddiaeth leol. [1] Astudiodd y gyfraith a gwleidyddiaeth yn y brifysgol. Priododd â Ceri Lovett. Maen nhw'n byw yng Nghaerdydd. Cafodd eu plentyn cyntaf ei eni tra roedden nhw yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.[2] Mae ganddyn nhw bump o blant.[3][4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Don't be afraid to put yourself out there". Welsh Housing Quarterly (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.
- ↑ "I chose to be a mum at just 22". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.
- ↑ Balch, Oliver. "Meet the world's first 'minister for future generations'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.
- ↑ "Sophie Howe Future Generations Commissioner for Wales". Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru - Future Generations Commissioner for Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-14. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.