Maestref a chymuned yng Nghaerdydd yw Rhiwbeina ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Rhiwbina). Mae'n ardal ffynianus yng ngogledd y ddinas a bu'n bentref ar wahân ar un adeg.

Rhiwbeina
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5211°N 3.214°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000858 Edit this on Wikidata
Cod postCF14 Edit this on Wikidata
Map

Tua diwedd yr 11g, lladdwyd Iestyn ap Gwrgant, tywysog olaf Teyrnas Morgannwg, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn yr ardal. Cofir am y frwydr yn yr enw Rhyd Waedlyd, ar ffrwd fechan yn Rhiwbeina.

Y Gymraeg golygu

Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,433 (12.9%) o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,409 (12.8%).[1]

Cynhelir gwasanaethu Cymraeg yng nghapel Methodistaidd Bethel. Bu capel Beulah (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) yn gapel Cymraeg yn perthyn i'r Annibynwyr, ond wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.[2]

Bu Rhiwbeina yn gartref i nifer o unoligion amlwg yn y diwylliant Cymraeg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, R. T. Jenkins, Iorwerth C. Peate, Kate Roberts, a Rachel Thomas.

 
Lleoliad Rhiwbina yng Nghaerdydd

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhiwbeina (pob oed) (11,369)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhiwbeina) (1,433)
  
12.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhiwbeina) (8863)
  
78%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Rhiwbeina) (2,154)
  
42.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback.; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
  2. Beulah United Reformed Church History, gwelwyd 1 Chwefror 2015.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]