Spider-Man: Into the Spider-Verse (ffilm)

Ffilm archarwr animeiddiedig yn seiliedig ar gymeriad llyfrau comics Marvel Miles Morales / Spider-Man yw Spider-Man: Into the Spider-Verse. Cafodd ei chynhyrchu gan Columbia Pictures a Sony Pictures Animation ar y cyd â Marvel, a'i dosbarthu gan Sony Pictures Releasing.

Dyma'r brif ffilm animeiddiedig gyntaf yn y gyfres Spider-Man,[1][2] ac mae wedi'i gosod mewn amlysawd o'r enw'r "Spider-Verse", sydd â bydysawdau amgen. Cafodd y ffim ei chyfarwyddo gan Bob Persichetti, Peter Ramsey, a Rodney Rothman ar sail sgript gan Phil Lord a Rothman. Gweithiodd hyd at 140 o animeiddwyr ar y ffilm, y criw mwyaf eto i weithio ar ffilm i Sony Pictures Animation.

Sêr y ffim oedd Shameik Moore fel Morales, ochr-yn-ochr â Jake Johnson, Hailee Steinfeld, Mahershala Ali, Brian Tyree Henry, Lily Tomlin, Luna Lauren Velez, John Mulaney, Nicolas Cage, a Liev Schreiber.

Yn Spider-Man: Into the Spider-Verse, mae Miles Morales yn dod yn un o nifer o Spider-Men wrth iddynt gydweithio i achub Dinas Efrog Newydd o fygythiad yr archelyn Kingpin.

Cyfeiriadau Golygu

  1. Nikolai, Nate (December 2, 2018). "'Spider-Man: Into the Spider-Verse' Team Talks Diversity: 'Modern Heroes for a Modern World'". Variety. Archived from the original on December 2, 2018. Retrieved December 3, 2018.
  2. Perry, Spencer (April 22, 2015), "Sony Announces Animated Spider-Man Film from The LEGO Movie’s Phil Lord and Chris Miller!", ComingSoon.net, https://www.comingsoon.net/movies/news/432887-sony-announces-animated-spider-man-film-from-the-lego-movies-phil-lord-and-chris-miller, adalwyd December 27, 2018