St. George's, Grenada
Prifddinas a dinas fwyaf Grenada yn y Caribî yw St. George's. Mae ganddi boblogaeth o 7,500 (1999), gyda chyfanswm o 33,000 o bobl yn byw ynddi a'r cyffiniau. Gorwedd y ddinas wrth droed crater hen losgfynydd ar harbwr ar ffurf pedol.
Math | dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Siôr |
Poblogaeth | 4,315 |
Gefeilldref/i | Hackney |
Daearyddiaeth | |
Sir | Saint George Parish |
Gwlad | Grenada |
Uwch y môr | 30 metr |
Gerllaw | Môr y Caribî |
Cyfesurynnau | 12.0444°N 61.7417°W |
Sefydlwyd y ddinas gan y Ffrancod yn 1650. Mae'n gartref i senedd Grenada, yr Amgueddfa Genedlaethol a sawl adeilad arall. Ar ei hymyl ceir Maes Awyr Point Salines, prif faes awyr Grenada.