Siôr (sant)
Sant Cristnogol yw Siôr (Groeg (iaith): Γεώργιος, Georgios; Lladin: Georgius; hefyd weithiau Siors neu Siorys yn Gymraeg).[1] Dethlir ei ŵyl, Dygwyl Siôr,[2] ar 23 Ebrill (18 Ebrill yn yr Eglwys Goptaidd).[3] Ef yw nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, Lloegr, Portiwgal a nifer o lefydd eraill.
Siôr | |
---|---|
![]() Darlun o Sant Siôr yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 275 ![]() Kayseri ![]() |
Bu farw | Nicomedia, Lod ![]() |
Dydd gŵyl | 23 Ebrill ![]() |
Mam | Polychronia ![]() |
Ni wyddwn llawer am fywyd y ffigwr hanesyddol Siôr, ond er gwaethaf rhai amheuon credir bellach ei fod wedi bodoli. Daw ei enw o'r gair Groeg ar gyfer ffermwr neu werinwr. Roedd yn ferthyr Cristnogol yn y 3g, ac mae'n debyg iddo farw yn yr ardal o gwmpas Diospolis neu Lydda ym Mhalesteina (bellach Lod, Israel), lle mae'r tystiolaeth cynharaf am ei gwlt. Mae'n bosib mai milwr ym myddin Rhufain oedd Siôr, a daeth i fod yn sant milwrol poblogaidd yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn y traddodiad hwnnw anrhydeddir ef fel megalomartyros ("merthyr mawr").[3]
Darluniwyd Siôr fel marchog ar geffyl gwyn yn gorchfygu draig, symbol o ddrygioni. Datblygodd hyn i fod yn chwedl am Siôr yn achub tywysoges oddi wrth y ddraig, a ddaeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd y gorllewin gyda chyhoeddi'r Llith Euraid, casgliad o fucheddau'r seintiau gan Jacobus de Voragine, yn y 13g. Mae'n bosib bod y chwedl am Perseus yn achub Andromeda o grafangau bwystil, mewn lleoliad nid ymhell o Lydda, wedi dylanwadu hefyd ar chwedl Siôr a'r Ddraig.[3]
Cynyddodd poblogrwydd cwlt Siôr yng ngorllewin Ewrop yng nghyfnod y Croesgadau. Mabwysiadodd brenhinoedd Lloegr ef yn y 13g, fel y gwnaeth nifer o bŵerau eraill Ewrop megis Aragón, Fenis, Genova a Phortiwgal, oherwydd ei ddelwedd fel y milwr Cristnogol delfrydol.[3] Sefydlwyd Siôr fel nawddsant teyrnas Lloegr ym 1348, pan sefydlwyd Urdd y Gardas Aur gan Edward III; Siôr oedd nawddsant yr urdd sifalrig hwn.[4] Mae baner Lloegr yn seiliedig ar faner y sant.
Mae tri murlun canoloesol o Siôr wedi goroesi mewn eglwysi yng Nghymru. Mae'r mwyaf o'r rhain, ac un o'r mwyaf yng ngwledydd Prydain, yn Eglwys Cadog Sant, Llancarfan, Bro Morgannwg.[5]
Baner dinas Barcelona, sy'n cyfuno baner y sant ag arfau Coron Aragón
Eglwys Sant Siôr yn Lalibela, Ethiopia
Capel Sant Siôr, Castell Windsor
Murlun o'r sant yn Eglwys Llancarfan, Bro Morgannwg
Eglwys Sain Siorys, Bro Morgannwg
Eglwysi cysegredig i Siôr yng NghymruGolygu
- Cwm-parc (Rhondda Cynon Taf) – 1895–1896; Gradd II[6]
- Llandrillo-yn-Rhos (Conwy) – 1913; Gradd II[7]
- Llan Sain Siôr (Conwy) – 1887–1894, ar safle eglwys flaenorol; Gradd II[8]
- Reynoldston (Abertawe) – 1867, ar safle eglwys flaenorol; Gradd II[9]
- Sain Siorys (Bro Morgannwg) – cyn y 14g; Gradd II*[10]
- Tredegar (Blaenau Gwent) – 1835–1836; Gradd II[11]
- Trefor (Gwynedd) – 1879–1881; Gradd II[12]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gweler Geiriadur Prifysgol Cymru, "gŵyl"
- ↑ Am y ffurf Gymraeg hon, gweler Geiriadur yr Academi.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Farmer, David Hugh (2004). The Oxford Dictionary of Saints. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen
- ↑ (Saesneg) Summerson, Henry. "George". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/60304.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ (Saesneg) Hilts, Carly (16 Rhagfyr 2011). News: Dragons, Death and Deadly Sins. Current Archaeology. Adalwyd ar 19 Mawrth 2015.
- ↑ (Saesneg) Church of St George, Treorchy. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2015.
- ↑ (Saesneg) Church of St George, Rhos-on-Sea. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
- ↑ (Saesneg) Church of St George, Abergele. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
- ↑ (Saesneg) Church of St George, Reynoldston. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
- ↑ (Saesneg) Church of St George, St Georges-super-Ely. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
- ↑ (Saesneg) St George's Church, Tredegar. British Listed Buildings. Adalwyd ar 18 Mawrth 2018.
- ↑ (Saesneg) Church of St George [Trefor]. Cadw. Adalwyd ar 16 Ebrill 2021.