Stadio Olimpico
Stadiwm chwaraeon cenedlaethol yr Eidal yw'r Stadio Olimpico. Fe'i lleolir yng nghyfadail chwaraeon y Foro Italico yn Rhufain. Adeiladwyd y stadiwm gwreiddiol ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1960, ond fe'i ail-adeiladwyd ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 1990. Mae'n dal 82,000 o bobl. Mae dau dîm pêl-droed y ddinas, S.S. Lazio ac A.S. Roma, yn rhannu'r stadiwm. Ers 2014 mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal wedi chwarae eu gemau cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y Stadio Olimpico tra bod eu cartref arferol, y Stadio Flaminio, yn cael ei adnewyddu.
![]() | |
Math | stadiwm Olympaidd, multi-purpose stadium, canolfan gerddoriaeth, stadiwm pêl-droed ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1937 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhufain ![]() |
Sir | Rhufain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 41.93387°N 12.45471°E ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Italian National Olympic Committee ![]() |