Stanisław Wyspiański
Dramodydd, bardd ac arlunydd o Wlad Pwyl oedd Stanisław Wyspiański (15 Ionawr 1869 – 28 Tachwedd 1907) sydd yn nodedig am ei gyfraniad at fagu traddodiad theatraidd unigryw i Wlad Pwyl, yn ogystal â'i baentiadau a'i ffenestri gwydr lliw. Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r mudiad Pwyl Ifanc (Młoda Polska).
Stanisław Wyspiański | |
---|---|
Ffotograff o Stanisław Wyspiański | |
Ganwyd | Stanisław Wyspiański 15 Ionawr 1869 Kraków |
Bu farw | 28 Tachwedd 1907 Kraków |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl, Awstria-Hwngari, Ymerodraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, pensaer, ysgrifennwr, dramodydd, cyfieithydd, cynllunydd llwyfan |
Adnabyddus am | View of the Kościuszko Mound in Kraków, Portrait of the artist's wife with son Staś., Polonia, Rachela, Śpiący Staś, Rapsod. Portret sceniczny Andrzeja Mielewskiego, The Wedding |
Arddull | drama fiction |
Mudiad | Art Nouveau, Young Poland |
Tad | Franciszek Wyspiański |
llofnod | |
Ganed ef yn Kraków, Teyrnas Galisia a Lodomeria, a oedd dan reolaeth Awstria-Hwngari. Cafodd addysg dda mewn llenyddiaeth glasurol a'r celfyddydau cain. Ym 1890 derbyniodd gymorth ariannol i ymweld â dinasoedd celfyddgar ar draws Gorllewin a Chanolbarth Ewrop, gan gynnwys sawl taith i Baris.[1]
Ym 1897 cyhoeddodd ei waith cyntaf, y ddrama ffantasi Legenda. Mae'r ddwy ddrama Klątwa (1899) a Sędziowie (1907) yn ymwneud â materion cyfoes, wedi eu strwythuro ar fodel trasiedïau Hen Roeg. Tynnai ar hanes Gwlad Pwyl yn ei gerdd Kazimierz Wielki (1900), a enwir ar ôl y Brenin Kazimierz III. Perfformiwyd ei ddrama enwocaf, Wesele, ym 1901, campwaith sy'n defnyddio stori priodas (a ysbrydolwyd gan Lucjan Rydel) i gyflwyno trosiad o hanes y genedl Bwylaidd. Cyhoeddwyd dilyniant i Wesele o'r enw Wyzwolenie, ym 1903.[1]
Fel arlunydd, paentiodd Wyspiański furluniau a dyluniadau ar gyfer ffenestri gwydr lliw a gwisgoedd theatraidd. Fe'i penodwyd yn athro yn Academi'r Celfyddydau Cain yn Kraków ym 1905. Bu farw Stanisław Wyspiański yn Kraków o syffilis yn 38 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Stanisław Wyspiański. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2022.