Star Trek: Picard

Cyfres deledu gwe Americanaidd yw Star Trek: Picard a grëwyd ar gyfer CBS All Access gan Kirsten Beyer, Akiva Goldsman, Michael Chabon ac Alex Kurtzman. Dyma'r wythfed gyfres yn masnachfraint Star Trek ac mae'n canolbwyntio ar y cymeriad Jean-Luc Picard. Mae'n cymryd lle ar ddiwedd y 24ain ganrif, 18 mlynedd ar ôl digwyddiadau Star Trek: Nemesis (2002), ac mae'r stori yn cael ei ddylanwadu gan farwolaeth yr android Data yn Nemesis. Mae dinistriad Romulus sy'n digwydd yn y ffilm Star Trek yn rhan o hanes, a lleoliad y sioe.

Star Trek: Picard
Mewn llythrennau aur, mae'r geiriau Star Trek uwchben y gair Picard mewn du, gyda'r A yn Picard wedi ei ddisodli gan symbol Starfleet sy'n ymdebygu siap y lythyren.
Genre
  • Drama
  • Gwyddonias
Crëwyd gan
  • Akiva Goldsman
  • Michael Chabon
  • Kirsten Beyer
  • Alex Kurtzman
Seiliwyd arStar Trek: The Next Generation gan
Gene Roddenberry
Yn serennu
  • Patrick Stewart
  • Santiago Cabrera
  • Michelle Hurd
  • Evan Evagora
  • Alison Pill
  • Harry Treadaway
  • Isa Briones
Cyfansoddwr/wyrJeff Russo
GwladYr Unol Daleithiau
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau3
Nifer o benodau30
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredol
  • Patrick Stewart
  • Michael Chabon
  • Akiva Goldsman
  • James Duff
  • Alex Kurtzman
  • Heather Kadin
  • Rod Roddenberry
  • Trevor Roth
Lleoliad(au)Santa Clarita, California
Cwmni cynhyrchu
  • Secret Hideout
  • Weed Road Pictures
  • Escapist Fare
  • Roddenberry Entertainment
  • CBS Television Studios
DosbarthwrCBS Television Distribution
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiol
  • CBS All Access
  • Amazon Prime Video (rhyngwladol)
Darlledwyd yn wreiddiolIonawr 23, 2020 (2020-01-23) – presennol (presennol)
Cronoleg
Rhagflaenwyd ganStar Trek: Discovery
Sioeau cysylltiol
  • Star Trek: The Next Generation
  • Star Trek: Voyager
  • Star Trek: Short Treks
https://www.paramountplus.com/shows/star-trek-picard/ Gwefan

Patrick Stewart yw cynhyrchydd gweithredol y gyfres ac mae'n serennu fel Picard, gan ail-afael yn ei rôl o Star Trek: The Next Generation yn ogystal â'r ffilmiau Star Trek. Mae Santiago Cabrera, Michelle Hurd, Evan Evagora, Alison Pill, Harry Treadaway, ac Isa Briones hefyd yn serennu. Mae sawl actor o gyfresi blaenorol Star Trek hefyd yn ail-gymeryd eu rhannau, gan gynnwys Brent Spiner, Jeri Ryan, Marina Sirtis, a Jonathan Frakes.[1] Daeth sïon am y gyfres i ddechrau ym mis Mehefin 2018 pan ddechreuodd Kurtzman ei waith yn ehangu'r masnachfraint, ac fe'i gyhoeddwyd yn swyddogol ym mis Awst ar ôl misoedd o drafodaethau gyda Stewart, a oedd wedi dweud o'r blaen na fyddai'n dychwelyd i'r fasnachfraint ar ôl Nemesis. Dechreuodd y ffilmio yng Nghaliffornia ym mis Ebrill 2019, gyda theitl swyddogol y gyfres yn cael ei gyhoeddi fis yn ddiweddarach.

Cyflwynwyd Star Trek: Picard am y tro cyntaf ar 23 Ionawr 2020, 12:00am (PST) a bydd ei dymor cyntaf yn cynnwys deg pennod. Cyn y bennod gyntaf, adnewyddwyd Star Trek: Picard gan CBS All Access am ail dymor o 10 pennod.

Rhagymadrodd

golygu

Mae'r gyfres yn cymryd lle 18 mlynedd ar ôl ymddangosiad olaf Jean-Luc Picard yn Star Trek: Nemesis (2002), ac mae'n cael ei effeithio'n ddwfn gan farwolaeth Data,[2] fel y'i darlunnir yn Nemesis, yn ogystal â ddinistriad Romulus fel y'i darlunnir yn y ffilm Star Trek (2009).

Cast a chymeriadau

golygu

Prif gast

golygu
  • Patrick Stewart fel Jean-Luc Picard: Llyngesydd Starfleet wedi ymddeol. Mae Stewart yn dychwelyd i'r rôl ar ôl portreadu'r cymeriad ddiwethaf yn ffilm Star Trek: Nemesis yn 2002 . Teimlai fod ei rôl yn y fasnachfraint bryd hynny "wedi rhedeg ei chwrs naturiol", ond yn y blynyddoedd ers hynny gwelodd sut yr oedd straeon am ei gymeriad wedi cael effaith er fywydau cefnogwyr y gyfres ac felly roedd bellach yn hapus "i ymchwilio a phrofi pa cysur a golau allai ddisgleirio ar yr amseroedd hyn, sy'n aml yn dywyll".
  • Isa Briones fel Dahj: Menyw ifanc sy'n dod at Picard i ofyn cymorth
  • Alison Pill fel Agnes Jurati: Meddyg sy'n rhannu nod cyffredin â Picard
  • Santiago Cabrera fel Cristobal "Chris" Rios: Peilot llong Picard, lleidr medrus a chyn swyddog Starfleet
  • Michelle Hurd fel Raffi Musiker: Cyn-swyddog cudd-wybodaeth Starfleet sy'n cael trafferth gyda cham-drin sylweddau; Partner Rios
  • Harry Treadaway fel Narek: Asiant Romulan sy'n ymuno â chriw Picard i ymchwilio i'r hyn y mae ei bobl yn ei wneud i gyn-dronau Borg
  • Evan Evagora fel Elnor: Ffoadur o Romulus sy'n arbenigwr mewn ymladd law-i-law ac sy'n ffyrnig o ffyddlon i Picard

Cast achlysurol

golygu
  • Brent Spiner fel Data: Android math Soong a wasanaethodd gyda Picard fel ail swyddog ar fwrdd y Enterprise-D a Enterprise-E hyd nes iddo gael ei ddinistrio yn Star Trek: Nemesis[3]
  • Jeri Ryan fel Seven of Nine: Cyn-drôn Borg a ryddhawyd o'r Collective a oedd yn gymeriad rheolaidd ar Star Trek: Voyager
  • Jonathan Del Arco fel Hugh: Cyn-drôn Borg a ymddangosodd ym mhenodau'r Next Generation "I, Borg" a "Descent, Part II"
  • Jonathan Frakes fel William Riker: Cyn-swyddog cyntaf Picard ar y Enterprise-D a Enterprise-E a briododd Troi yn Star Trek: Nemesis
  • Marina Sirtis fel Deanna Troi: Cyn gynghorydd Picard ar y Enterprise-D a Enterprise-E
  • De Niro fel Number One: ci Picard

Cyfeiriadau

golygu
  1. Otterson, Joe; Otterson, Joe (20 Gorffennaf 2019). "'Star Trek: Picard' to Feature Jonathan Frakes, Marina Sirtis, Brent Spiner, Jeri Ryan". Variety. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
  2. Harp, Justin; Tanswell, Adam (16 Ionawr 2020). "Patrick Stewart confirms Star Trek: Picard fan theory explaining Data's return". Digital Spy.
  3. Couch, Aaron (20 Gorffennaf 2019). "'Star Trek': All the News and Highlights From the Supersized Comic-Con Panel". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.

Dolenni allanol

golygu