Star Trek (ffilm)
ffilm acsiwn, llawn cyffro llawn antur gan J. J. Abrams a gyhoeddwyd yn 2009
Ffilm wyddonias o 2009 yw Star Trek a gyfarwyddwyd gan J. J. Abrams, ysgrifennwyd gan Roberto Orci a Alex Kurtzman, ac a gynhyrchwyd gan Damon Lindelof a Bryan Burk. Dyma yw'r unfed ffilm ar ddeg yn y gyfres Star Trek ac mae'n cynnwys y prif gymeriadau gwreiddiol sy'n cael eu portreadu gan gast newydd. Edrycha'r ffilm ar hanes James T. Kirk (Chris Pine) a Spock (Zachary Quinto), cyn iddynt uni ar yr USS Enterprise er mwyn trechu Nero (Eric Bana), Romulanwr o'r dyfodol sy'n bygwth Ffederasiwn Unedig y Planedau. Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau mewn sinemau confensiynnol ac IMAX ar yr 8fed o Fai, 2009 yng Ngogledd America a'r Deyrnas Unedig.[1]
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | J. J. Abrams |
Cynhyrchydd | J. J. Abrams Damon Lindelof Bryan Burk |
Ysgrifennwr | Addasiad: Roberto Orci Alex Kurtzman Cymeriadau: Gene Roddenberry |
Serennu | Chris Pine Zachary Quinto Karl Urban Simon Pegg Zoë Saldaña John Cho Anton Yelchin Eric Bana Leonard Nimoy |
Cerddoriaeth | Michael Giacchino |
Sinematograffeg | Daniel Mindel |
Golygydd | Mary Jo Markey Maryann Brandon |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures Spyglass Entertainment Bad Robot Productions |
Dyddiad rhyddhau | Awstralia & Seland Newydd: 7 Mai, 2009 DU &Unol Daleithiau: 8 Mai, 2009 |
Amser rhedeg | 126 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg)John Hill (2008-12-02)."Watching the Watchmen at Greenwich IMAX". The Wharf. Adalwyd 2008-12-02.