Starlight Express (sioe gerdd)
Sioe gerdd gan Andrew Lloyd Webber (cerddoriaeth), Richard Stilgoe (geiriau) ac Arlene Phillips (coreograffeg) ydy Starlight Express, gyda fersiynau diweddarach gan Don Black (geiriau) a David Yazbek (cerddoriaeth a geiriau ar gyfer yr 2il daith yn yr Unol Daleithiau). Adrodda'r sioe hanes breuddwyd plentyn lle mae ei drên tegan yn dod yn fyw; mae'r sioe yn adnabyddus am fod yr actorion yn gwisgo esgidiau rholio. Dyma un o'r sioe sydd wedi rhedeg hiraf yn hanes West End Llundain, gyda 7,461 o berfformiadau, ond dim ond am 761 o berfformiadau y rhedodd y sioe ar Broadway.