Mae statinau yn grŵp o feddyginiaethau a all helpu i ostwng lefel cholesterol Lipoprotein dwysedd isel (LDL) yn y gwaed. Cyfeirir at golesterol LDL yn aml fel "cholesterol drwg", ac mae statinau yn lleihau eu cynhyrchu o fewn yr iau[1].

Statinau
Atrovastatin
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o gyffuriau meddygol, grŵp neu ddosbarth o endidau moleciwlaidd Edit this on Wikidata
Mathmeddyginiaeth, anticholesteremic agents, enzyme inhibitor, oxidoreductase inhibitor Edit this on Wikidata
Rhan oresponse to statin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cael lefel uchel o golesterol LDL yn beryglus, gan y gall arwain at galedu a chulhau'r rhydwelïau a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn derm cyffredinol sy'n disgrifio clefyd y galon neu'r pibellau gwaed. Dyma'r achos marwolaeth fwyaf cyffredin yn y DU. Y prif fathau o glefyd cardiofasgwlaidd yw:

  • Clefyd coronaidd y galon - pan gyfyngir cyflenwad gwaed y galon
  • Angina - poen mân yn y frest, a achosir gan glefyd coronaidd y galon
  • Trawiad ar y galon - pan fo'r cyflenwad o waed i'r galon yn cael ei atal yn sydyn
  • Strôc - pan fydd y cyflenwad o waed i'r ymennydd yn cael ei atal

Daw statinau fel tabledi sy'n cael eu cymryd unwaith y dydd. Fel rheol, dylai'r tabledi gael eu cymryd ar yr un pryd bob dydd - mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd ychydig cyn mynd i'r gwely.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae triniaeth gyda statinau'n parhau am oes, gan fod atal y feddyginiaeth yn achosi i'r cholesterol ddychwelyd i lefel uchel o fewn ychydig wythnosau. Yng ngwledydd Prydain mae statinau ar gael drwy bresgripsiwn yn unig. Mae pum math o statin ar gael yn y DU:

  • atorvastatin (Lipitor)
  • fluvastatin (Lescol)
  • pravastatin (Lipostat)
  • rosuvastatin (Crestor)
  • simvastatin (Zocor)

Bydd pobl sy'n cymryd statinau yn cael prawf gwaed unwaith y flwyddyn i fesur maint y cholesterol sydd yn eu gwaed ac i wirio os yw eu dos o statinau yn ddigonol.

Cyfeiriadau golygu

  1. NHS UK Statins adalwyd 14 Ionawr 2018
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato