Steòrnabhagh
Prifddinas ynys Leòdhas yw Steòrnabhagh (Gaeleg yr Alban; Saesneg: Stornoway). Dyma'r unig dref weddol fawr yn Ynysoedd Allanol Heledd yn yr Alban, gyda phoblogaeth o tua 9,000 (26,370 sy'n byw yn yr ynysoedd cyfan).
![]() | |
Math |
tref, small burgh ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
8,038, 5,070 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynysoedd Allanol Heledd, Stornoway, Ross and Cromarty, Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
58.209°N 6.387°W ![]() |
Cod OS |
NB426340 ![]() |
Cod post |
HS1 ![]() |
![]() | |
Steòrnabhagh yw canolfan weinyddol yr ynysoedd lle ceir pencadlys Comhairle nan Eilean Siar ('Cyngor Ynysoedd Heledd', Saesneg: Western Isles Council). Mae gan y dref goleg, amgueddfa, llyfrgell, oriel celf, cwrs golff, canolfan chwaraeon a chanolfan y celfyddydau, An Lanntair, ag agorwyd yn 2005.[1] Adeiladwyd castell yn y dref gan deulu MacNicol tua 1100. Dinistrwyd y castle ym 1653 gan fyddin Oliver Cromwell, a deffnyddiwyd y gweddillion i adeiladu pier yn y 1800au.[2]
Daw'r enw o'r enw Norseg Stjornavagr.
Ceir cysylltiad fferi ag Ulapul (Ullapool) ar y tir mawr. Mae maes awyr bychan ger pentref Mealabost (Melbost), ryw ddwy filltir i ffwrdd.