Steganographia
Llyfr ar steganograffeg (negeseuon cudd) yw Steganographia, a ysgrifennwyd tua 1499 gan abad Benedictaidd a polymath o'r Almaen, Johannes Trithemius.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Johannes Trithemius |
Gwlad | yr Almaen |
Iaith | Lladin |
Dyddiad cyhoeddi | 1606 |
Dechrau/Sefydlu | 1499 |
Rhagflaenwyd gan | steganography |
Prif bwnc | steganography |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos fod y testun yn sôn am sêr-ddewiniaeth a syniadau ‘hudol’ aneglur. Honnwyd ei fod yn cynnwys, ymysg pethau eraill, ddull o anfon negeseuon cudd dros bellter mawr. Mae’n cynnwys traethodau hirion am wahanol ysbrydion ac angylion, gyda defodau a thablau o fformiwlâu 'hudol'. Fodd bynnag, mae'n ymddangos erbyn hyn nad oes unrhyw beth ‘hudol’ yn eu cylch. Mewn gwirionedd, mae’r rhestrau o rifau a llythrennau yn allwedd i ffurf glyfar o amgryptio, nad oedd wedi cael ei ddarganfod hyd y 1990au. Mae'n ymddangos fod Johannes Trithemius wedi dyfeisio ffurf gyntefig o’r un system amgryptio a ddefnyddiwyd yn nes ymlaen i greu'r Cod Enigma enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Cafodd y gwaith yma ei drawsysgrifio yn 1591 gan John Dee.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Steganographia | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-06. Cyrchwyd 2020-05-22.