Stemar olwyn
Mae Stemar olwyn yn gwch sy’n defnyddio olwynion rhodli i wthio’ ei hyn trwy’r dŵr. Oeddent y ffordd mwy cyffredin ar gyfer cychod yn defnyddio pŵer stêm erbyn y 19eg ganrif gynnar. Erbyn diwedd y 19fed ganrif roedd sgriwiau gyrru’n fwy effeithiol ac yn fwy cyffredin. Defnyddir olwynion gan gychod llai, yn aml yn defnyddio pŵer diesel, ac yn aml wedi mynychu ar afonydd gan dwristiaid.[1]
Yr Olwyn
golyguMae’r olwyn yn ffrâm dur gyda rhodlau wedi gosod yn rheolaidd arno; bydd tua chwarter yr olwyn o dan y dŵr. Y stemar badlo hanesyddol Kingswear Castle yw’r stemar olwyn glo olaf sy’n dal ar waith yn y DU heddiw ac mae’n rhedeg ar ddyfroedd ei chartref, sef yr Afon Dart unwaith eto.[2]
Mathau stemar olwyn
golyguMae 3 math o stemar olwyn:-
Olwyn ar ben-ôl cwch
golyguEr dyfeiswyd y math yma yn Ewrop, defnyddiwyd yn amlach yng Ngogledd America, yn arbennig ar Afon Mississippi. Roeddent yn fwy effeithiol na’r mathau eraill
Olwyn ar ochrau’r cwch
golygu. Maent newid cyfeiriad yn haws. Oherwydd hyn, maen’t yn boblogaidd o hyd ar Afonydd Murray a Darling yn Awstralia.
Olwyn mewnol
golyguDefnyddiol ar ddyfroedd cul neu ysgythrog
Hanes
golyguMae ‘De Rebus Bellicis’ yn sôn am cwch rhyfel yn defnyddio ych i roi pŵer. Dywedir bod y cwch yn enfawr ac yn pwerus iawn.[3]
Ym 1704, adeiladwyd Denis Papin cwch yn defnyddio peiriant stêm, yn defnddio rhodlau. Hwn oedd cerbyd cyntaf y byd i ddefnyddio pŵer stêm.
Crewyd Patrick Miller o Dalswinton cwch gyda 2 gorff ym 1787 gyda dynion yn defnyddio capstan i yrru rhodlau, ar Aber Gweryd, yr Alban[4]
Adeiladwyd Palmipède yn Ffrainc ym 1774 gan Claude de Jouffroy a defnyddiwyd ar Afon Doubs ym 1776. Adeiladwyd de Jouffroy un arall, “Pyroscaphe” ym 1783, ond methodd ei beiriant ar ôl 15 munud ar Afon Saone. Gweithiodd cychod ar Loch Maben ym 1788 a 1789. Adeiladwyd y “Charlotte Dundas” ar gyfer Camlas Forth a Clyde gan William Symington i dynnu cychod camlas ym 1802, ond archebwyd dim mwy.
Adeiladwyd y Clermont gan Robert Fulton ym 1807 i deithio rhwng Dinas Efrog Newydd ac Albany, yn ysbrydoli mwy ohonynt. Cynlluniwyd Henry Bell y “Comet” i weithio ar Afon Clud ym 1812.[5]
Y Waverley
golyguMae'r PS Waverley yn gweithredu o amgylch arfordir Prydain, gan gynnwys Cymru.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bernard Dumpleton (2002). Story of the Paddle Steamer (yn Saesneg). Intellect Limited. tt. 1–47. ISBN 9781841508016.
- ↑ "Paddle Steamer Kingswear Castle". Historic Paddle Steamer KC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-20. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.
- ↑ ’De Rebus Bellicis’, pennod XVII; golygydd Robert Ireland;: BAR Cyfres Rhwngwladol 63, rhan 2, tud. 34
- ↑ ’Men of Invention and Industry’ gan Samuel Smiles, 1884; e-tecst Gutenberg
- ↑ ’The Coming of the Comet: The Rise and Fall of the Paddle Steamer‘ gan Nick Robins, cyhoeddwyd gan Seaforth: isbn=978-1848321342
- ↑ "Waverley paddle steamer finally sets sail after two years". BBC News (yn Saesneg). 22 Awst 2020. Cyrchwyd 31 Awst 2020.