Yr ail afon hiraf yn Unol Daleithiau America yw'r Mississippi, yng nghanolbarth y wlad. Ganddi hi, hefyd mae'r ail basn draenio mwyaf yng Nghyfandir Gogledd America.[1][2]

Afon Mississippi
Mathy brif ffrwd Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Canolog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau47.2397°N 95.2075°W, 29.1536°N 89.2508°W Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Itasca Edit this on Wikidata
AberGwlff Mecsico Edit this on Wikidata
Dalgylch2,981,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd3,766 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad12,743 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLlyn Itasca, Llyn Bemidji, Llyn Cass, Llyn Winnibigoshish, Llyn Pepin, Llyn Onalaska, Llyn Winneshiek Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu yn Llyn Itasca, yng ngogledd Minnesota ac yn llifo i'r de i aberu yng Ngwlff Mecsico. Gyda Afon Missouri, sy'n ymuno â hi fymryn i'r gogledd o ddinas St. Louis, mae'n ffurfio'r 3ydd system afon hiraf yn y byd (6050 km / 3759 milltir) ac mae ganddi'r basin draenio trydydd mwyaf yn y byd yn ogystal (3,222,000 km² / 1,243,753m²).[2][3] Oherwydd y perygl o orlifo, fel y profwyd yn Orleans Newydd yn Awst 2005, mae ganddi system gymhleth o gloddiau dŵr (levees) am hanner olaf ei chwrs.

Mae Americanwyr Brodorol wedi byw ar hyd Afon Mississippi a'i llednentydd ers miloedd o flynyddoedd. Helwyr-gasglwyr oedd y mwyafrif, ond roedd rhai, fel Adeiladwyr y Mwnt, yn ffurfio gwareiddiadau amaethyddol a threfol gwaraidd iawn. Newidiodd dyfodiad Ewropeaid yn yr 16g y ffordd frodorol o fyw wrth i archwilwyr cyntaf, yna ymsefydlwyr, fentro i'r basn.[4] Gwasanaethodd yr afon yn gyntaf fel rhwystr, gan ffurfio ffiniau ar gyfer Sbaen Newydd, Ffrainc Newydd, a'r Unol Daleithiau cynnar, ac yna fel priffordd i gludo a chyfathrebu newyddion a gwybodaeth.

Wedi'i ffurfio o haenau trwchus o ddyddodion (deposits) silt yr afon, mae basn y Mississippi yn un o ardaloedd mwyaf ffrwythlon yr Unol Daleithiau; defnyddiwyd agerlongau yn helaeth yn y 19g a dechrau'r 20g i gludo nwyddau amaethyddol a diwydiannol. Yn ystod Rhyfel Cartref America, roedd cipio’r Mississippi gan luoedd yr Undeb yn nodi trobwynt bwysig, tuag at fuddugoliaeth, oherwydd lleoliad strategol yr afon. Oherwydd twf sylweddol ei dinasoedd a'r llongau a'r cychod hwylio gwell a ddisodlodd y cychod stêm, yn ystod degawdau cyntaf yr 20g, adeiladwyd gwaith peirianneg enfawr fel llifgloddiau, lociau ac argaeau.

Ers yr 20g, mae Afon Mississippi hefyd wedi gwaethygu o ran llygredd ac mae ganddi broblemau amgylcheddol mawr - yn fwyaf arbennig lefelau maetholion a chemegol uwch o ddŵr ffo amaethyddol, a hi yw'r prif gyfrannwr i "barth marw Gwlff Mecsico".

Geirdarddiad

golygu

Daw'r gair 'Mississippi'" ei hun o 'Misi zipi', y gair Ffrengig o'r enw 'Anishinaabe' (Ojibwe neu Algonquin) a ddefnyddid am yr afon, Misi-ziibi (Afon Fawr).

Ei chwrs

golygu

Lleolir tarddle Afon Mississippi yn y corsdiroedd eang ger Duluth (ar lan Llyn Superior) yng ngogledd Minnesota. Yn y dalaith honno mae hi'n llifo heibio i ddinasoedd Minneapolis a St. Paul. Rhwng de Minnesota a St. Louis mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng taleithiau Iowa a Missouri i'r gorllewin a Wisconsin ac Illinois i'r dwyrain. Ger Davenport yn Iowa mae camlas yn cysylltu'r afon â Llyn Michigan, i'r gogledd o Chicago. Yn ymyl St. Louis mae afon fawr Missouri yn ymuno â hi o'r gorllewin. Yn nes ymlaen i'r de, ger tref Cairo, daw Afon Ohio i ymuno â'r afon fawr; mae ffiniau tair talaith - Missouri, Illinois a Kentucky - yn cwrdd yno.

Llifa'r afon yn ei blaen trwy'r gwastadiroedd eang i dref Memphis ac yn nodi'r ffin rhwng Arkansas a Tennessee. Yr afon fawr nesaf i ymuno â hi yw Afon Arkansas ac mae'n llifo heibio i iseldiroedd talaith Mississippi ei hun ar ei lan ddwyreiniol. Yna mae'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Louisiana a Mississippi ond am ran olaf ei thaith hir rhed drwy Louisiana yn unig, gan fynd heibio i Baton Rouge a thorri i fyny yn gyfres o sianelu cymhleth a elwir the Passes wrth fynd heibio i Orleans Newydd a chyrraedd Gwlff Mecsico ar isthmws o dir aliwfial sy'n ymestyn allan i'r gwlff hwnnw.[5][6]

Economeg

golygu

Yn enwog am ei llongau stêm, mae'n un o afonydd masnachol prysuraf y byd, gyda phorthleoedd pwysig yn St. Louis ac Orleans Newydd. Newidiodd oes yr agerlongau fywyd economaidd a gwleidyddol y Mississippi, yn ogystal â natur teithio ei hun. Newidiwyd y Mississippi yn llwyr erbyn oes yr agerlong wrth iddi drawsnewid yn fasnach dwristaidd lewyrchus.

 
Map o Afon Mississippi

Rhaniadau

golygu

Gellir rhannu Afon Mississippi yn dair rhan:

  1. y Mississippi Uchaf, yr afon o'i blaenddyfroedd i'r cymer ag Afon Missouri;
  2. y Mississippi Canol, sy'n is i lawr o'r Missouri i Afon Ohio; a'r
  3. Mississippi Isaf, sy'n llifo o'r Ohio i Gwlff Mecsico.

Hyd a dyfnder

golygu

Pan gaiff ei fesur o'i ffynhonnell draddodiadol yn Llyn Itasca, mae gan y Mississippi hyd o 2,320 milltir (3,730 km). Pan gaiff ei fesur o fan pellaf y ffynhonnell (sef tarddiad y nant hiraf) hy y ffynhonnell fwyaf pell o'r môr, Gwanwyn Brower yn Montana, mae ganddi hyd o 3,710 milltir (5,970 km), sy'n golygu mai hi yw'r bedwaredd afon hiraf yn y byd ar ôl afon Nîl, Amazonas a'r Yangtze.[7]

Yn ei ffynhonnell yn Llyn Itasca, mae Afon Mississippi tua 3 troedfedd (0.91 m) o ddyfnder. Mae dyfnder cyfartalog Afon Mississippi rhwng Saint Paul a Saint Louis rhwng 9 a 12 troedfedd (2.7–3.7 m), a'r rhan ddyfnaf yw Llyn Pepin, sy'n 20–32 troedfedd (6–10 m) o ddyfnder ar gyfartaledd ac sydd â dyfnder mwyaf o 60 troedfedd (18 m). Rhwng Saint Louis, Missouri a Cairo, Illinois, mae'r dyfnder ar gyfartaledd yn 30 troedfedd (9 m). O dan Cairo, lle mae Afon Ohio yn ymuno â hi, mae'r dyfnder ar gyfartaledd yn 50–100 troedfedd (15–30 m). Mae rhan ddyfnaf yr afon yn New Orleans, lle mae'n cyrraedd 200 troedfedd (61 m) o ddyfnder.[8][9]

Cymunedau'r afon

golygu
Arwynebedd Poblogaeth
Minneapolis–Saint Paul 3,946,533
St. Louis 2,916,447
Memphis 1,316,100
New Orleans 1,214,932
Baton Rouge 802,484
Quad Cities, IA-IL 387,630
St. Cloud, MN 189,148
La Crosse, WI 133,365
Cape Girardeau–Jackson MO-IL 96,275
Dubuque, IA 93,653
 
Yn Minnesota, mae Afon Mississippi yn rhedeg trwy'r Twin Cities (2007)
 
Cymuned tai cychod ar Afon Mississippi yn Winona, MN (2006)
 
Afon Mississippi yn y Chain of Rocks ychydig i'r gogledd o St Louis (2005)
 
Ceir argae sy'n dyfnhau'r pwll uwchben y Chain of Rocks Lock ger St. Louis (2006)

Many of the communities along the Mississippi River are listed below; most have either historic significance or cultural lore connecting them to the river. They are sequenced from the source of the river to its end.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. United States Geological Survey; Hydrological Unit Code: 08-09-01-00- Lower Mississippi-New Orleans Watershed
  2. 2.0 2.1 "Lengths of the major rivers". United States Geological Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mawrth 5, 2009. Cyrchwyd Mawrth 14, 2009.
  3. "Mississippi River Facts – Mississippi National River and Recreation Area (U.S. National Park Service)". www.nps.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2018. Cyrchwyd November 16, 2018.
  4. "Mississippi (river US) facts, information, pictures | Encyclopedia.com articles about Mississippi (river US)". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 18, 2017. Cyrchwyd June 30, 2017.
  5. "United States Geography: Rivers". www.ducksters.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2019. Cyrchwyd June 30, 2017.
  6. "The 10 States That Border the Mississippi". ThoughtCo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2017. Cyrchwyd 30 Mehefin 2017.
  7. Bowden, Rob (January 27, 2005). Settlements of the Mississippi River. Heinemann-Raintree Library. ISBN 9781403457196. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2018. Cyrchwyd January 1, 2018 – drwy Google Books.
  8. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd December 30, 2018.CS1 maint: archived copy as title (link)
  9. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd December 30, 2018.CS1 maint: archived copy as title (link)