Steve Prefontaine
Rhedwr o'r Unol Daleithiau oedd Steve Roland "Pre" Prefontaine (25 Ionawr 1951 – 30 Mai 1975) oedd yn un o sbardunau'r twf mewn rhedeg yn yr Unol Daleithiau yn y 1970au.
Steve Prefontaine | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ionawr 1951 Coos Bay |
Bu farw | 30 Mai 1975 o damwain cerbyd Eugene |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhedwr pellter-hir, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 175 centimetr |
Pwysau | 63 cilogram |
Gwefan | http://www.prefontainerun.com/ |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Ganwyd yn Coos Bay, Oregon, UDA. Dechreuodd redeg tra'n mynychu Marshfield High School, ac yn ei flwyddyn olaf torrodd y record genedlaethol am y ras ddwy filltir. Tynodd sylw Bill Bowerman, hyfforddwr trac a maes ym Mhrifysgol Oregon a chyd-sefydlydd Nike, Inc.[1]
O ganlyniad i'w lwyddiant ar y trac, roedd 35 o golegau Americanaidd yn dymuno iddo gofrestru gyda hwy.[2] Ymunodd Prefontaine â Phrifysgol Oregon ym 1969, a denodd niferoedd mawr o bobl i wylio ei rasys. Ar ôl iddo raddio, roedd ganddo saith teitl o'r National Collegiate Athletic Association (NCAA): traws gwlad 1970, '71, a '73, a'r ras dair milltir '70, '71, '72, a '73. Mae ei recordiau yn y rasys tair milltir a chwe milltir yn sefyll hyd heddiw. Yn ystod ei yrfa torrodd recordiau cenedlaethol (weithiau rhai ei hunan) 14 o weithiau.[1]
Rhedodd yn y ras 5,000 metr yng Ngemau Olympaidd 1972 ym München, ond er iddo bod yn y blaen am y mwyafrif o'r ras daeth yn bedwerydd.[1]
Bu farw Prefontaine mewn damwain car, ger Parc Hendricks yn Eugene, Oregon, pan trodd ei gar godi to drosodd wrth iddo ei yrru. Crynodiad yr alcohol yn ei waed oedd .16; dan gyfraith Oregon mae .10 yn dynodi bod person wedi meddwi.[3]
Cynhelir Ras Goffa Prefontaine bob blwyddyn ym Mae Coos.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Steve Prefontaine. National Distance Running Hall of Fame. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Prefontaine signs letter. The Bulletin (2 Mai 1969). Adalwyd ar 9 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Tests Show Prefontaine Was Drunk. The Milwaukee Journal (31 Mai 1975). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2012.
- ↑ "Steve "Pre" Prefontaine". Steve Prefontaine Foundation (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-24. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2022.
Llyfryddiaeth
golygu- Tom Jordan, Pre: The Story of America's Greatest Running Legend (Rodale, 1998)