Straeon y Pentan
Cyfrol o straeon byrion gan Daniel Owen yw Straeon y Pentan. Fe'i cyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab yn 1895, ychydig fisoedd cyn marwolaeth yr awdur. Roedd 9 o'r 19 stori wedi ymddangos yn fisol yn Cymru'r Plant rhwng Gorffennaf 1894 ac Ebrill 1895. Yn ei ragair "At y Darllenydd" mae Daniel Owen yn pwysleisio mai straeon gwir yw'r rhain, a'i fod yn defnyddio'r cymeriad "F'ewyrth Edward" i'w hadrodd "er mwyn ysgafnhau yr arddull a'u gwneud yn fwy darllenadwy i bawb". Mae'n sicr i Daniel Owen ddefnyddio straeon a glywsai ar lafar gwlad yn yr Wyddgrug a'r ardaloedd cyfagos, ac yn wir iddo fynychu tafarnau'r Wyddgrug i chwilio amdanynt. Mewn sgwrs gyda T. Ceiriog Williams cofiai un o drigolion Maes-y-dre sôn am hyn, "Old Daniel's been yonder again after his tales."[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Daniel Owen |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1895 |
Prif bwnc | stori fer |
Cynnwys:
- "Doli'r Hafod Lom"
- "Nid wrth ei Big y mae Prynu Cyffylog"
- "Y Ddau Fonner"
- "Y Daleb"
- "Enoc Evans, y Bala"
- "Het Jac Jones"
- "Edward Cwm Tydi"
- "Thomas Owen, Tŷ'r Capel"
- "Y Gweinidog"
- "Wiliam y Bugail"
- "Ci Hugh Burgess"
- "Cŵn"
- "Tomos Mathias"
- "Ysbryd y Crown"
- "Tubal Cain Adams"
- "Fy Annwyl Fam fy Hunan"
- "Hen Gymeriad"
- "Rhy Debyg"
- "Y Ddau Deulu"
Delweddau
golyguMae rhai o'r storïau yn cynnwys delwedd print bloc pren i'w darlunio
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archifdy Sir y Fflint, Penarlâg D/DM/521/32 (tâp sain). Dyfynnir yn Dawn Dweud: Daniel Owen, t.192
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |