Stranraer F.C.
Tim pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Yr Alban yw Stranraer Football Club. Maent wedi sefydlu yn Stranraer, sydd yn Ne-Orllewin Yr Alban. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn stadiwm Stair Park.
Enw llawn |
Stranraer Football Club (Clwb Pêl-droed Stranraer) | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | The Blues (Y Glas) | ||
Sefydlwyd | 1870 | ||
Maes | Stair Park | ||
Rheolwr | Stephen Aitken | ||
Cynghrair | Ail Adran yr Alban | ||
2018-2019 | 8ydd | ||
|
Hanes
golyguSefydlwyd Stranraer F.C. yn 1870, a nhw ydy'r trydydd tim hynaf yng nghynghreiriau yr Alban. Ymunodd Stranraer â chynghreiriau'r Alban yn 1949. Gêm enwocaf Stranraer oedd yn erbyn Glasgow Rangers yn 1948 yng Nghwpan Yr Alban. Enillodd Rangers 1-0 mewn gem agos iawn o flaen stadiwm orlawn. Heb fawr o dlysau i'w henw yn ystod bron i 140 o flynyddoedd fel tîm, mae Stranraer wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y cynghreiriau isaf. Maent wedi cyrraedd Y Gynghrair Gyntaf ar dair adeg wahanol, ond byth wedi medru aros yn yr adran yn fwy nag un tymor. Yn 2009 roedd gan y clwb ddyledion o dros £250,000, sydd yn fygythiad real i'r clwb.
Anrhydeddau
golygu- Enillwyr Ail Gynghrair yr Alban: 1993-94, 1997-98
- Enillwyr Trydedd Cynghrair yr Alban: 2003-04
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Swyddogol
- (Saesneg) Achub Stranraer F.C.
- (Saesneg) Fforwm Answyddogol y Cefnogwyr Archifwyd 2009-04-17 yn y Peiriant Wayback